Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ennill Gwobr Arian am Arfer Orau Amgylcheddol
Published: 28/11/2018
Mae prosiect partneriaeth arfordirol Sir y Fflint wedi ennill Gwobr Arian Green Apple am Arfer Orau Amgylcheddol yn yr ymgyrch cenedlaethol i ganfod yr unigolion, cwmnïau, cynghorau a chymunedau mwyaf gwyrdd.
Mae ymdrechion partneriaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint, Amphibian Reptile Conservation Trust (ARC), Network Rail a Siemens wedi eu cydnabod am eu prosiect cadwraeth werthfawr ar ôl cael eu dyfarnu gyda Gwobr Arian Green Apple.
Mae’r gwaith cadwraeth yn canolbwyntio ar ddau safle ail-gyflwyno ar gyfer llyffantod cefnfelyn. Mae’r safleoedd cynefin newydd wedi golygu oriau o waith gan unigolion yn glirio’r prysgwydd er mwyn cynnal amffibiad mwyaf prin Cymru. Mae cynefinoedd llyffantod cefnfelyn wedi’u cyfyngu i systemau twyni tywod, dalgylchoedd cors halen a rhosydd tywodlyd sydd yn y 100 mlynedd diwethaf wedi lleihau yn sylweddol.
Yng nghanol yr 20fed ganrif, collwyd llyffantod cefnfelyn o Gymru oherwydd darnio cynefinoedd. Yn dilyn arolwg ar ddechrau’r 1990 ac yn sgil ymdrech gadwraeth fe ailgyflwynwyd llyffantod cefnfelyn i’w cynefinoedd yng Ngogledd Cymru. Mae’r prosiect ailgyflwyno yn barhaus ac mae’r wobr bellach wedi cydnabod sut y gall partneriaethau adfywio rhywogaethau prin i’w tiriogaeth naturiol.
Mae rhaglen ailgyflwyno Gogledd Cymru hefyd yn cael ei gydnabod gan ARC, sydd yn cydlynu’r prosiect hwn, fel y prosiect mwyaf llwyddiannus yn y DU. Hyd yma, maent wedi ailgyflwyno llyffantod cefnfelyn i Dwyni Gronant a SoDdGA Talacre Warren, Y Parlwr Du a Bettisfield. Mae Network Rail wedi talu i greu trydydd pwll bas yn Bettisfield yn ddiweddar.
Cyflwynwyd partneriaid gyda’r wobr am eu prosiect ‘Creu Rhywogaethau i Lyffantod Cefnfelyn a Diweddaru Rheilffyrdd Gogledd Cymru’. Roedd mwy na 800 o enwebiadau eraill yng Ngwobrau Green Apple.
Meddai Ceidwad Arfordir Cefn Gwlad Sir y Fflint, Tim Johnson:
“Hoffwn ddiolch i Caitlin o Network Rail am enwebu’r prosiect ar gyfer y wobr. Mae’r prosiect partneriaeth yn mynd o nerth i nerth, mae’n amhrisiadwy i gadwraeth ac i ddatblygu ein safleoedd a rhywogaethau lleol. Ar y cyfan mae’r gwasanaeth yn ddiolchgar i’r holl sefydliadau ynghlwm ac rydym yn falch o’r wobr rydym wedi’i dderbyn sydd yn tynnu sylw at ein cyraeddiadau.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Hoffwn longyfarch y partneriaid sy’n rhan o’r prosiect hwn am eu gwobr a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled. Mae partneriaethau fel hyn yn hanfodol i’n cefn gwlad leol a’n rhywogaethau prin.”
Cynrychiolydd Green Apple, Maria Jarosz - Network Rail, Mandy Cartwright - ARC, Clint Williams - Siemens, Alex Koscielski - Siemens, Tim Johnson - Cyngor Sir y Fflint, Caitlin McCann-Network Rail