Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cludiant i'r Ysgol – seddi gwag rhatach
Published: 14/12/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell y gyfradd ddewisol ar gyfer seddi gwag rhatach ar gyfer cludiant i'r ysgol yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr.
Yn ôl y gyfraith, mae angen i’r Cyngor ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’n mynd i ysgol uwchradd ac sy'n byw 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol addas agosaf a 2 filltir neu fwy o’r ysgol gynradd. Mae Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Sir y Fflint yn adlewyrchu hyn.
Os yw cludiant â chymhorthdal yn cael ei ddarparu gan y Cyngor ac os yw rhieni eisiau defnyddio’r gwasanaeth er nad yw eu plant yn gymwys gan nad ydynt yn bodloni’r gofynion pellter, gall y Cyngor, yn ôl y gyfraith, godi tâl am y ddarpariaeth hon a gall unrhyw seddi gwag ar y cludiant ei werthu i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys am gludiant am ddim. Gelwir y lleoedd hyn yn seddi gwag rhatach. Ni ellir sicrhau'r seddi hyn a gellir eu tynnu’n ôl (a rhoi ad-daliad) os oes angen y sedd honno yn nes ymlaen ar gyfer disgybl sy’n gymwys i gael sedd am ddim.
Y gost a argymhellir ar gyfer 2019/20 yw £150 y tymor neu £450 y flwyddyn, cynnydd o £50 y tymor o’i gymharu â’r gost bresennol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Rhaid i ni adennill cymaint o’r costau â phosib ar gyfer darparu’r cludiant hwn, ac ar y gyfradd newydd arfaethedig o £450 y flwyddyn, mae’r gost yn dal i fod 50% yn llai na’r gost lawn o ddarparu'r seddi rhatach. Er bod hyn yn creu pwysau ariannol ar y Cyngor mewn cyfnod o galedi a phan mae penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud ar faterion cyllideb ehangach, mae’r Cyngor yn cydnabod y byddai’n annheg codi tâl llawn ar gyfer y gwasanaeth dros gyfnod mor fyr. Mae’r dewis yn rhoi cydbwysedd rhwng adennill y gost lawn a fforddiadwyedd y cynllun ar gyfer rhieni, yn arbennig y rhai gyda nifer o blant yn teithio i’r ysgol ar y gwasanaethau hyn.
“Bydd cludiant yn parhau i fod am ddim i’r ysgol agosaf, yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffydd, sydd dros 3 milltir i ffwrdd neu os yw’r ffordd yn beryglus. Mae’n bwysig i rieni fod yn ymwybodol o hyn wrth wneud y dewis o ba ysgol uwchradd i anfon eu plant."
Os caiff ei gymeradwyo, ac ar ôl ymgynghori gydag ysgolion, bydd y tâl yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2019 a bydd, yn y dyfodol, yn ffurfio rhan o'r adolygiad blynyddol o daliadau ar draws gwasanaethau'r Cyngor.