Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Polisi Gorfodi Cynllunio
Published: 14/12/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo fersiwn diwygiedig o’r Polisi Gorfodi Cynllunio yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr.
Mae’r Polisi diwygiedig yn rhoi eglurder am y meini prawf y bydd y Cyngor yn ei gymryd i ystyriaeth pan fydd yn ystyried yr amgylchiadau pan fydd yn cymryd camau gorfodi. Mae nawr yn rhoi rhesymau eglur ac amlwg i’r sawl y cymerir camau yn eu herbyn.
Mae’r polisi drafft wedi bod drwy'r Pwyllgor Craffu ac wedi bod yn destun 6 wythnos o ymgynghoriad cyhoeddus gafodd ei ymestyn oherwydd nifer o geisiadau gan glercod Cynghorau Tref a Chymuned.
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:
“Cafodd y Polisi ei drafod gan y Grwp Strategaeth Cynllunio ym mis Hydref lle cafodd ymateb da, ac yn ddarostyngedig i fân newidiadau, argymhellwyd ei fabwysiadu. Cytunwyd yn y cyfarfod hwnnw y byddai aelodau yn cwrdd â’r swyddogion gorfodi ar ôl cyhoeddi’r polisi a threfnir sesiwn hyfforddi ar Orfodaeth Cynllunio i bob cynghorydd.”