Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwaith Ffilmio yn arddangos Bywyd Gwyllt a Chymuned Arfordirol Sir y Fflint
Published: 10/08/2023
Mae cyllid gan Gronfa Capasiti Arfordirol Llywodraeth Cymru, a ddyfarnwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wedi galluogi grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol i fod yn rhan o gyfres o ffilmiau sydd wedi’u cydlynu gan Gyngor Sir y Fflint (CSFf).
Mae 10 ffilm i gyd yn ymdrin ag ystod o destunau: Adfywio; Coginio Bwyd Iach (gan ddefnyddio berdys o’r aber); Trafodaeth Bwrdd Crwn Bwyta’n Iach (bwyd cynaliadwy lleol); Arloesi (gan gynnwys y prosiect solar newydd); Gweithgareddau a Gwirfoddoli; Cadwyni Cyflenwi Byr; Defnyddio Afon Dyfrdwy; Well-Fed (prosiect partneriaeth bwyd lleol); Bywyd Gwyllt; a Hanes. Mae’r 10 ffilm ar gael ar YouTube FCC ar:
https://www.youtube.com@flintshirecc
Anogir pobl i wylio’r ffilmiau i ddysgu mwy am Aber Afon Dyfrdwy a Dociau Cei Connah.
Mae’r cyllid a gafwyd drwy’r Bartneriaeth Natur Leol, hefyd yn nodi pwysigrwydd pysgota cynaliadwy, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) y Fflint hefyd yn y ffilmiau, yn amlinellu eu rolau, a phwysigrwydd diogelu a defnyddio Aber Afon Dyfrdwy yn ddiogel.
Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd David Healey:
“Mae’n wych gweld y ffilmiau hyn yn dangos ac adrodd hanes y pethau cadarnhaol sy’n digwydd o amgylch cynefin cyfoethog yr Afon Dyfrdwy a Dociau Cei Connah. O ddiwydiant trwm, rydym yn symud at ynni glân a thechnoleg newydd, ac mae’n wych gweld y prosiect solar a’r busnes peirianneg fanwl technoleg uchel lleol yn y ffilmiau hyn. Maent hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu’r cynefin pwysig hwn, a’r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yno.
Tra bod gan Gei Connah boblogaeth fawr, mae ymgynghoriadau blaenorol yn dangos nad oes gan bawb yn y gymuned ‘gysylltiad’ gyda’r arfordir yno ac mae’r cyllid wedi bod yn ‘gam cyntaf’ hanfodol tuag at godi ymwybyddiaeth, ac annog pobl i ymweld, i gerdded, i feicio ac ymweld â’r caffis lleol, ac i fod yn gorfforol egnïol, a bydd yn ategu at y gwaith i ddatblygu Parc Arfordirol Sir y Fflint.
Mae gan ‘RainbowBiz CiC’ menter gymdeithasol leol grwp ‘Cerdded dros Les’ ar gyfer pobl leol ac roeddent yn falch o fod yn rhan o’r ffilm. Mae’r grwp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cerdded ar hyd Dociau Cei Connah, ac yn mwynhau taith wedi’i thywys gan Adrian Hibbert, Arolygydd Hawliau Tramwy Sir y Fflint, fel rhan o ‘Flwyddyn Llwybrau Cymru’. Roeddent hefyd yn cael cyfle i ddysgu sut i gofnodi bywyd gwyllt a welwyd ar-lein gan ddefnyddio gwefan COFNOD, gydag arddangosiad gan Arbenigwr Cofnodi COFNOD Richard Gallon.
Dywedodd Ian Forrester Cyfarwyddwr / Hwylusydd Prosiect RainbowBiz CIC :
“Roedd yn wych dysgu am sut i dynnu llun a chofnodi yr hyn yr ydym yn ei weld, mae’n hwyl gwneud hynny wrth fynd am dro ac mae’n gymorth i’n grwp ddysgu mwy am fywyd gwyllt yn yr Aber. Mae hefyd yn wych ar gyfer lles, gan ei fod yn rhywbeth sy’n gwneud i chi arafu a thalu sylw i’r byd naturiol. Rydym yn edrych ymlaen at wneud mwy o hyn wrth fynd am dro’n rheolaidd”.
Mae Nia Griffith o Glwstwr Bwyd Môr ‘Menter a Busnes’ yn rhan o ffilm arall. Dywedodd Nia:
“Mae pobl sy’n byw yn yr ardal hon yn lwcus bod cymaint o bysgotwyr lleol sydd yn defnyddio dulliau cynaliadwy o ddal bwyd môr ffres ar eu stepen drws, sydd ar gael i’w brynu o fewn oriau o’i ddal. Mae’r Clwstwr Bwyd Môr yn cefnogi datblygiad diwydiant Bwyd Môr Cymru ac yn gallu cynorthwyo i gefnogi prosiectau tebyg drwy gydweithio gyda physgotwyr, proseswyr ac eraill o fewn cadwyn fwyd Bwyd Môr Cymru i ddod â bwyd môr ffres i blatiau mwy o bobl leol.”
Dywedodd Dawn Beech, Uwch Ymgynghorydd (Swyddog Cadwraeth Dyfrdwy) o Gyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae Aber Afon Dyfrdwy yn lleoliad cymhleth ac amrywiol gyda hanes naturiol a dynol hyfryd. Mae fy rôl yn canolbwyntio ar ddiogelu a chynorthwyo Aber Afon Dyfrdwy i ffynnu. Drwy fy ngwaith, rwy’n gwerthfawrogi sut mae’r aber yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr o ran cyflogaeth, addysg a lles, tra’n cynnig ystod o gynefinoedd allweddol ar gyfer natur”.
Mae gennym oll gyfrifoldeb i sicrhau bod ein plant a chenedlaethau’r dyfodol yn cael yr un cyfleoedd ac mae’r ffilm gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn dangos pwysigrwydd Aber Afon Dyfrdwy i’n cynorthwyo i gyflawni hyn.”
I gael gwybodaeth am Wasanaeth Cefn Gwlad a’r Arfordir CSFf, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Countryside-and-Coast/Home.aspx
Adnoddau Cefndirol:
https://www.llyw.cymru/croeso-cymru-yn-cyhoeddi-blwyddyn-llwybrau-pa-lwybr-ddewiswch-chi-yn-2023
https://www.cofnod.org.uk/Recording?AspxAutoDetectCookieSupport=1
https://www.cancook.co.uk/