Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Eithriadau 20 mya wedi eu cadarnhau
Published: 22/09/2023
Er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru ar 17 Medi 2023, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal asesiad o ffyrdd lleol yn erbyn y canllawiau cenedlaethol cyfredol.
O ganlyniad i’r asesiad hwn canfuwyd y canlynol:
- rhannau o nifer fechan o ffyrdd ble gellir cynyddu’r terfynau cyflymder presennol yn uwch na 30mya, a
- rhannau o ffyrdd a ellir eu hystyried yn ‘eithriadau’ i ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru.
Yn gynharach yr haf hwn bu i Gyngor Sir y Fflint ymgynghori’n ffurfiol gyda’r cyhoedd ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ymwneud â’r ffyrdd hyn.
Mae ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad bellach wedi eu hystyried yn rhannol ac mae canlyniad y broses ffurfiol statudol wedi pennu y bydd y darnau canlynol o ffyrdd yn newid fel yr amlinellir isod.
Rhannau o ffyrdd i gynyddu i 40mya
· Drury Lane, Bwcle
· Bannel Lane Bwcle - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau
· Padeswood Road South, Bwcle
· Station Road, Talacre - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau
Rhannau o ffyrdd sy’n bodloni meini prawf ‘Eithriadau’ 20mya Llywodraeth Cymru ac a fydd yn mynd yn ôl i 30mya
· A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa
· A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle
· B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle
· B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle
· Drury Lane, Bwcle
· Parc Dewi Sant, Ewlo - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau.
· A541 Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug
· A5104 Cyfnewidfa Warren Bank, Brychdyn
· A5026 Holway Road, Treffynnon
· B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon
· B5129 Kelsterton Road, Kelsterton
· B5129 Cylchfan Queensferry
Mae manylion llawn rhannau o’r ffyrdd a restrir uchod, ble fydd terfynau cyflymder yn newid, ar wefan y Cyngor.
Ni fydd y terfynau cyflymder diwygiedig yn y lleoliadau a restrir uchod yn dod i rym nes bydd yr holl arwyddion priodol wedi eu gosod ar y safle. Gwneir y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf.