Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgynghoriad ar Adolygu Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yn Sir y Fflint
Published: 16/04/2024
Ar hyn o bryd mae gan gynghorau yng Nghymru bwerau disgresiwn i godi neu amrywio premiwm treth y cyngor hyd at 300% uwchben y gyfradd safonol ar gyfer treth y cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Cyflwynodd y Cyngor gynllun premiwm lleol yn 2017 i ddechrau ac ar hyn o bryd, codir premiwm treth y cyngor o 75% ar eiddo gwag hirdymor a 100% ar ail gartrefi.
Mae’r Cyngor yn ymgynghori â’r cyhoedd eto, fel rhan o'r broses o adolygu’r cyfraddau premiwm.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn helpu aelodau etholedig i ystyried a ddylid newid y premiwm ym mis Ebrill 2025 ac, os felly, i ba lefel.
Os hoffai preswylwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn mae holiadur byr ar-lein ar gael tan 5pm ar 8 Gorffennaf 2024 yn www.siryfflint.gov.uk/PremiwmTrethyCyngor