Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn derbyn Arolwg Cadarnhaol

Published: 17/06/2024

Dangosodd wasanaethau plant ac oedolion Cyngor Sir y Fflint eu gwaith caled, creadigrwydd ac arloesi yn ystod arolwg diweddar.

Ymwelodd arolygwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) â’r gwasanaeth ym mis Tachwedd llynedd a dyma’r arolwg llawn cyntaf ers 8 mlynedd. Treuliodd Arolygwyr bythefnos yn Nhy Dewi Sant, gan deithio o amgylch y sir yn cwrdd â staff, partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd.

Diben yr arolwg oedd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol mewn ymarfer ei ddyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Cyhoeddwyd adroddiad wedi’r ymweliad a oedd yn canmol yr uwch dîm rheoli ‘sefydlog a phrofiadol’ ar draws y gwasanaethau gan nodi fod ymarferwyr yn adnabod y bobl y maen nhw’n ei gefnogi yn dda iawn.

Mae’r ailstrwythuro diweddar ar draws y ddau wasanaeth wedi cael ei gydnabod i fod â’r potensial o ddarparu mwy o gadernid, a chyfleoedd am well cefnogaeth a goruchwyliaeth gan reolwyr, yn ogystal â chynnydd gyrfaol.

Cydnabuwyd hefyd bod y Cyngor yn adnabod anghenion ei boblogaeth ac wedi gweithredu cynlluniau llwyddiannus wrth ymateb i’r angen sydd wedi cael ei adnabod a’r diffyg mewn gwasanaethau cefnogi penodol.  Mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a phartneriaid perthnasol eraill i ddatblygu gwasanaethau arloesol gyda buddsoddiad cyfalaf sylweddol yn cynnwys Cartref Gofal Marleyfield a Chartref Gofal Plant Ty Nyth.

Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r canlyniad positif ar gyfer yr arolwg hwn yn arddangos gwaith caled ac ymrwymiad ein timau, wrth gefnogi unigolion a theuluoedd yn Sir y Fflint yn ddyddiol.

“Dwi’n falch iawn bod yr adborth gan yr arolygwyr wedi bod mor frwdfrydig a hefyd yn croesawu’r agweddau y mae’r arolygwyr wedi’u nodi i ni ystyried i’w datblygu. Hoffwn ddiolch i’n timau am eu gwaith caled parhaus ac edrychaf ymlaen at wneud cynlluniau i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol.”