Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofiwch ddod â’ch prawf adnabod â llun gyda chi ar gyfer yr etholiad cyffredinol

Published: 03/07/2024

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i gofio ddod â’u prawf adnabod â llun gyda nhw pan fyddant yn mynd i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau. 

Bydd angen i bleidleiswyr ddangos prawf adnabod â llun yn y gorsafoedd pleidleisio cyn y gallant dderbyn eu papurau pleidleisio.  

Mae’r mathau o brawf adnabod a dderbynnir yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru’r DU neu’r AEE; rhai cardiau teithio rhatach, fel cerdyn bws unigolyn hyn neu gerdyn Oyster 60+; a’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim newydd.  Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio mathau o brawf adnabod sydd wedi dod i ben os yw’n dal yn bosibl eu hadnabod o’r llun. 

Bydd gofyn i bleidleiswyr gyflwyno prawf adnabod yn y gorsafoedd pleidleisio lle bydd yn cael ei wirio gan staff yr orsaf bleidleisio.  Bydd ardal breifat ar gael yn yr orsaf bleidleisio fel bod pleidleiswyr yn gallu dewis i’w prawf adnabod â llun gael ei weld yn breifat os ydynt yn dymuno gwneud hynny. 

Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton:  “Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd, gwnewch yn siwr eich bod yn barod ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.  Cyn cychwyn am yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gwnewch yn siwr bod gennych chi’r math o brawf adnabod a dderbynnir a chofiwch ddod ag ef gyda chi.

“Os oes gan bleidleisiwr unrhyw bryderon o ran dangos eu hwyneb mewn gorsaf bleidleisio, er enghraifft, gan eu bod yn gwisgo gorchudd wyneb, gallant ofyn i’w prawf adnabod gael ei wirio yn breifat.   Ni fydd angen iddynt roi rheswm dros eu cais nac egluro pam fyddai’n well ganddynt gael preifatrwydd.  Bydd staff wedi’u hyfforddi i ddelio â cheisiadau i brofion adnabod gael eu gwirio yn breifat, yn gynnil a gyda chwrteisi.”

Mae rhestr lawn o’r mathau o brawf adnabod a dderbynnir, ynghyd â mwy o wybodaeth am y gofyniad newydd, ar gael ar ein gwefan.

Os bydd y rhai sy’n pleidleisio yn colli eu prawf adnabod, neu os nad yw eu Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer diwrnod yr etholiad, gallant benodi dirprwy brys i bleidleisio ar eu rhan tan 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.  Mae’n rhaid i’r unigolyn a benodwyd fel dirprwy, sy’n pleidleisio ar ran rhywun arall, gael eu prawf adnabod â llun a dderbynnir eu hunain.