Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Yr Arglwydd Barry yn cefnogi cymorthfeydd digidol yn Sir y Fflint
Published: 09/07/2024
Mae’r Arglwydd Barry yn cefnogi menter Cyngor Sir y Fflint ar ôl cael cefnogaeth gan ein Sgwad Ddigidol.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynhwysiant digidol ac yn cefnogi trigolion i ddatblygu eu sgiliau i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio o fyd digidol.
Fel rhan o’r cynlluniau, mae gweithwyr wedi eu hyfforddi ac wedi sefydlu Sgwad Ddigidol sydd nawr yn teithio o amgylch y sir yn cynnal Cymorthfeydd Digidol, gan roi’r hyder i bobl ddefnyddio technoleg, am ddim.
Gall y Sgwad Ddigidol gefnogi trigolion gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys defnyddio’r rhyngrwyd ac e-bost, defnyddio gwasanaethau ar-lein a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Roedd yr Arglwydd Barry, seneddwr a wasanaethodd gymuned Sir y Fflint am dros 50 mlynedd, a’i wraig yr Arglwyddes Janet, yn ddau o’r ymwelwyr diweddaraf â’r Gymhorthfa Ddigidol.
Bu i aelod o’r Sgwad Ddigidol, Ryan McCale, gefnogi’r cwpwl i gysylltu â’r rhyngrwyd i gael gwybodaeth a defnyddio ffôn symudol i ychwanegu cysylltiadau ac anfon negeseuon at eu hanwyliaid.
Dywedodd yr Arglwydd Barry: “Roeddwn angen dysgu hanfodion mynd ar-lein ac roedd gallu cael cymorth ar stepen fy nrws yn wych. Mae’r Sgwad Ddigidol yn glên, yn gefnogol ac yn amyneddgar ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hangerdd dros helpu pobl sydd â sgiliau digidol cyfyngedig fel fi.
“Maent yn cynnig cymorth digidol am ddim mewn cymunedau lleol ac rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau cymorth i weld beth allant ei gynnig. Mae wir yn wasanaeth gwych. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol i ddatblygu fy sgiliau digidol.”
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, y Cynghorydd Linda Thomas: “Rwyf wrth fy modd fod ein Cymorthfeydd Digidol yn cael eu cefnogi gan yr Arglwydd Barry. Mae hi mor bwysig fod trigolion yn cael y cymorth maent ei angen i ddefnyddio gwasanaethau yn y byd digidol, ac mae ein Sgwad Ddigidol yma i helpu.
“Rwy’n ategu sylwadau’r Arglwydd Barry ac anogaf bawb sydd angen cymorth i gymryd rhan.”
Gall trigolion sydd eisiau cymorth digidol fynd i Ganolbwynt Digidol y Cyngor i gael mwy o wybodaeth a dilyn Cyngor Sir y Fflint ar Facebook.