Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailagor y Ffordd: A550 (Tinkersdale)

Published: 12/07/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o roi gwybod y bydd yr A550 (Tinkersdale) rhwng Cylchfan Dobshill a Glynne Way yn cael ei hailagor erbyn 5pm heddiw (dydd Gwener, 12 Gorffennaf) yn dilyn cwblhau gwaith atgyweirio hanfodol.

Bu'n rhaid cau'r ffordd er mwyn rhoi wyneb newydd arni yn ddiweddar o ganlyniad i ddirywiad sylweddol yng nghyflwr y ffordd. Yn ogystal â rhoi wyneb newydd ar y ffordd, mae gwaith ychwanegol wedi'i wneud gan gynnwys torri unrhyw goed a changhennau sy'n hongian dros y ffordd, ysgubo'r ffordd a thrwsio'r ffensys diogelu cerddwyr i sicrhau diogelwch a defnyddioldeb y ffordd.

Unwaith eto, dymunai’r Cyngor ddiolch i drigolion a busnesau'r ardal am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y gwaith angenrheidiol hwn. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl waith ffordd sy’n digwydd ledled Sir y Fflint, cliciwch yma.