Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymateb Gwych gan y Cyhoedd i’r Alwad i Weithredu ynglyn â Hen Adeilad Baddonau Bwcle

Published: 17/07/2024

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd yn ceisio cael barn y cyhoedd ynglyn â Hen Adeilad Baddonau Bwcle.

Ar hyn o bryd, mae’r adeilad mewn cyflwr gwael ac mae ei ddyfodol mewn perygl. Er nad yw’r adeilad yn eiddo i’r Cyngor, gobaith y Cyngor yw ennyn digon o gefnogaeth gan y cyhoedd i ddatblygu prosiect ar gyfer buddsoddi i adfywio’r adeilad. Mae’r Tîm Adfywio wedi rhyfeddu â’r holl ymateb cadarnhaol a chefnogaeth i’r adeilad gan y cyhoedd – mae’n amlwg yn golygu llawer i bobl. Hyd yma, mae 1289 o bobl wedi llenwi arolwg ar-lein, 72% ohonynt yn breswylwyr Bwcle. Roedd 66% o’r ymatebwyr yn teimlo bod adfer Hen Adeilad Baddonau Bwcle yn bwysig iawn ar gyfer Bwcle ac mae 203 o bobl eisoes wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn natblygiad prosiect posibl i ailddatblygu’r adeilad.

Yn dilyn sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i ymchwilio i brosiectau ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, mae Tîm Adfywio’r Cyngor wedi dechrau ymdrech ar y cyd â Chyngor Tref Bwcle i gael amcan o ddiddordeb y cyhoedd yn Hen Adeilad Baddonau Bwcle.

Mae ffilm fer a gynhyrchwyd gyda’r cyllid a sicrhawyd yn cyfleu cyflwr yr adeilad mewn ffordd weledol, ac mae’r delweddau a’r ffilm wedi ymddangos yn yr arolwg ar-lein, sydd wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn casglu safbwyntiau lleol:  www.givemyview.com/oldbuckleybaths?lang=cy

Nod yr ymdrech hon yw dod â grwp o bobl o’r un meddylfryd ynghyd i ddatblygu prosiect i ddenu buddsoddiad i ailddatblygu’r adeilad.

Yn rhan o’r gweithgarwch cyffredinol sy’n digwydd ar hyn o bryd i ymgysylltu â’r cyhoedd, cynhelir dau ddigwyddiad galw heibio ar gyfer unrhyw un nad yw eisoes wedi cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein neu unrhyw un sy’n dymuno trafod sut y gall fod yn rhan o ddatblygiad Hen Adeilad Baddonau Bwcle. Cynhelir y digwyddiadau hyn:

·        Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024 (6-8pm, Canolfan Gymunedol Hawkesbury, Mill Lane, Bwcle)

·        Dydd Llun, 22 Gorffennaf 2024 (12-2pm, Llyfrgell Bwcle (yr amgueddfa i fyny’r grisiau), y Ganolfan Siopa, Ffordd Brunswick, Bwcle)

Adeiladwyd Baddonau Bwcle ym 1927-28 gan yr adeiladwyr lleol, Hayes Bros. ar gost o £5,000 gyda chyllid gan Ffederasiwn Glowyr Gogledd Cymru. Bu aelodau’r Ffederasiwn o’r holl byllau glo cyfagos yn talu i gronfa ar gyfradd o un hen geiniog am bob tunnell o lo a gloddiwyd. Pan agorwyd y Baddonau ym 1928, yr oedd yn gyfleuster o’r radd flaenaf, a oedd yn boblogaidd iawn ac yn darparu gwasanaeth gwerthfawr. Deuai pobl yno o bob cwr o’r wlad, ac mae gan bobl hyd heddiw atgofion melys o ddysgu nofio ym Maddonau Bwcle. Mae Hen Adeilad Baddonau Bwcle wedi bod yn wag ers i’r baddonau gau yn 2005, ac er bod cyflwr strwythurol yr adeilad yn dda, mae yna ddiffygion arwynebol sy’n gwneud yr adeilad yn anaddas i aelodau o’r cyhoedd grwydro o’i gwmpas. Mae ymdrechion cydweithredol y Tîm Adfywio a’r Cyngor Tref wedi darparu mynediad gweledol i’r cyhoedd yn y gobaith o sbarduno diddordeb a gweithredu yn lleol.

Dywedodd y Cynghorydd David Healey: “Mae’n galonogol gweld y gefnogaeth gan bobl leol a gweld faint o feddwl sydd gan y trigolion o’r adeilad hwn a’r atgofion a’r hanes sy’n gysylltiedig ag o. Rydym yn gobeithio cael grwp ymroddedig o unigolion cefnogol i gymryd y cam nesaf a gweithredu i ddiogelu’r adeilad hanesyddol hwn ar gyfer y gymuned.” 

Bydd unrhyw gyfraniad gennych, yn enwedig eich amser, boed fach neu fawr, yn allweddol i ddatblygiad prosiect. Os hoffech drafod sut i gyfranogi a / neu beth y gallech ei gyfrannu, gofynnir i chi ddod i’r digwyddiad ymgynghori neu anfon e-bost atom.

Gellir gwylio ‘Old Buckley Baths Film’ ar YouTube yma: https://youtu.be/1AmpIsjfb8g

Mae’r arolwg ar gael tan 23 Gorffennaf: www.givemyview.com/oldbuckleybaths?lang=cy (fersiwn Saesneg: www.givemyview.com/oldbuckleybaths)

Yn y digwyddiadau galw heibio, bydd copïau papur o’r arolwg ar-lein ar gyfer unrhyw un sydd heb dderbyn mynediad at yr arolwg dros y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn casglu manylion gan bobl sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o weithgor i ddatblygu prosiect i adfywio Hen Adeilad Baddonau Bwcle. Fel arall, mae modd mynegi eich diddordeb mewn bod yn rhan o weithgor trwy anfon e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk