Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Pride ysgol Sir y Fflint yn dychwelyd

Published: 23/07/2024

Mae Ysgol Uwchradd Penarlâg wedi cynnal ei hail ddathliad blynyddol fel rhan o fis Pride - menter genedlaethol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth o LHDTC+.

Mae’r staff a’r dysgwyr, ynghyd â thîm Ysgolion Iach a Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor, wedi trefnu digwyddiad cynhwysol ac ysbrydoledig unwaith eto. Cafodd yr ysgol ei thrawsnewid gan addurniadau lliwgar, bynting, baneri enfys, bwâu o falwns, i fod yn amgylchedd lliwgar a byrlymus i nodi dathliadau’r diwrnod.Flintshire Schools' Pride.jpg

Croesawodd llysgenhadon LHDTC+ yr ysgol oddeutu 250 mynychwr, a oedd yn cynnwys dysgwyr o ysgolion uwchradd ledled y sir a chynrychiolwyr o dros 30 elusen a sefydliad LHDTC+.

Yn dilyn araith ysbrydoledig gan Leaola Roberts-Biggs o Senedd yr Ifanc, a Hannah Blythyn, AS Delyn, cafodd dysgwyr eu rhannu i grwpiau cymysg i gymryd rhan mewn gweithdai â thema, a gynhaliwyd gan ddarparwyr, gan gynnwys Theatr Clwyd, y Comisiynydd Plant, Unique a Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint.

Swynodd gynhyrchiad Ysgol Uwchradd y Fflint o Talking About Jamie gynulleidfa’r penwythnos gyda’i leisiau gwych a’i ddawn ddramatig. Parhaodd yr hwyl gyda pherfformiadau gan gôr Ysgol Uwchradd Penarlâg a dawns egniol Zumba gan Hamdden Aura.

Uchafbwynt y prynhawn oedd dychweliad Taylor Martin, actor llawrydd, a ymddangosodd unwaith eto fel eu personoliaeth drag, Mel Teaser.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Mae digwyddiadau fel hyn yn hollbwysig ar gyfer hyrwyddo’r neges hon ledled cymunedau ein hysgolion. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddileu rhagfarn ac anoddefgarwch, gan sicrhau fod amrywiaeth yn cael ei chroesawu a’i dathlu. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r digwyddiad.”