Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno taliadau newydd ar gyfer gwastraff nad yw’n wastraff y cartref ym mis Awst

Published: 30/07/2024

Mae taliadau newydd ar gyfer eitemau nad ydynt yn wastraff y cartref yn cael eu cyflwyno yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint.

O 5 Awst ymlaen, codir tâl ar drigolion am asbestos, olew moduron, plastrfwrdd a theiars.

Bydd y taliadau hyn yn cwmpasu’r gost flynyddol sylweddol i Gyngor Sir y Fflint am dderbyn yr eitemau hyn mewn Canolfannau Ailgylchu.

Cymeradwywyd y cynnig gan y Cyngor llawn ar 20 Chwefror 2024, fel rhan o’r rhaglen gosod cyllideb a oedd yn cynnwys newidiadau arwyddocaol i’r ddarpariaeth Canolfannau Ailgylchu yn Sir y Fflint mewn ymgais i osod cyllideb gytbwys.

Mae’r rhain yn cynnwys byrhau’r oriau agor, codi tâl am eitemau nad ydynt yn wastraff y cartref a chreu cyfleuster gwastraff ac ailgylchu masnachol.

Meddai’r Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd cost-effeithiol o weithredu gan ddarparu gwasanaeth o safon dda i’n trigolion ar yr un pryd.

“Mae’n costio llawer iawn o arian i’r Cyngor bob blwyddyn i waredu’r eitemau hyn. Bydd modd i ni wrthbwyso’r costau hyn trwy gyflwyno ffi fechan y gellir ei thalu ar-lein.”

Mae’n rhaid i drigolion fynd ar-lein i archebu a thalu i waredu’r eitemau hyn cyn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Costau gwastraff sydd ddim yn wastraff cartref
Math o Wastraff Cost

Asbestos

Mae’n bosib casglu’r bagiau o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu trwy ddefnyddio eich cyfeirnod archebu.

£20 fesul bag

(Uchafswm o 5 bag ar gyfer pob archeb)

Olew moduron

£5 fesul ymweliad

(Dim mwy na 10 litr bob ymweliad)

Plastrfwrdd

£5 fesul bag

£30 fesul trelar (plastrfwrdd sydd ddim mewn bag)

Teiars - cerbydau domestig, beiciau modur

£5 fesul teiar

(Uchafswm o 4 teiar ar gyfer pob archeb)

Ym mis Awst, bydd Cyngor Sir y Fflint hefyd yn lansio Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu Masnachol newydd. Ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd, mae cyfle i gyflwyno gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu i fusnesau lleol gan godi tâl. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig casgliadau ymyl palmant i fusnesau, ond hefyd mynediad am dâl i Ganolfan Ailgylchu Maes Glas.

Gwelir manylion llawn y taliadau am wastraff nad yw’n wastraff y cartref ar-lein yma.