Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arweinydd y Cyngor yn camu i lawr

Published: 31/07/2024

Gallwn gadarnhau bod Arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo ar unwaith.

Mewn llythyr ymddiswyddo at y Prif Weithredwr, Neal Cockerton, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod wedi bod yn fraint gwasanaethu fel Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.

Bydd yn parhau i wasanaethu fel Cynghorydd ar gyfer Ward y Castell yn y Fflint.

Mae trefniadau dros dro yn debygol o olygu y bydd y dirprwy Arweinwyr presennol yn cydweithio’n agos gan rannu swydd.