Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn derbyn sgôr ‘Da’.

Published: 31/07/2024

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi cael ei raddio’n dda yn dilyn arolwg.

Cafodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint radd ‘Da’ yn dilyn arolwg Arolygiaeth Prawf ei Fawrhydi ym mis Mawrth pan gafodd ei asesu mewn tri phrif faes: trefniadau darparu gwasanaethau, ansawdd y gwaith gyda phlant a phobl ifanc a gwaith y tu allan i’r llys.

Roedd yr adroddiad yn amlygu ymrwymiad a gwaith caled y gwasanaeth dros blant, pobl ifanc a dioddefwyr yn Sir y Fflint. Roedd yr Arolygydd yn teimlo bod y gwasanaeth mewn sefyllfa dda o fewn yr Awdurdod Lleol i fod yn effeithiol gyda dylanwad strategol a gweithredol da ac ethos ac ymrwymiad cryf tuag at ymwreiddio arfer sy’n cael ei arwain gan drawma.

Canmolwyd rheolwyr, staff a gwirfoddolwyr am eu hangerdd wrth roi cefnogaeth a cheisio llenwi bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth. Nodwyd hefyd bod staff yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae gwaith partneriaeth a dylanwad y gwasanaeth yn gryf a gwelodd yr arolygydd bod darpariaeth y gwasanaeth ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth fanwl.  Nodwyd hefyd bod gan y gwasanaeth gysylltiadau da â sefydliadau academaidd ac fe’i canmolwyd am y ffordd y mae’n ymdrin ag asesiadau a’r gefnogaeth a gynigir i ddioddefwyr trosedd.

Mae’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys llenwi bylchau mewn adnoddau a darpariaeth ym maes iechyd, lleferydd, iaith a chyfathrebu, a phrawf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant, y Cynghorydd Mared Eastwood: “Dylai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint fod yn falch iawn o’i lwyddiannau. Mae ei ymrwymiad i’n plant, pobl ifanc, teuluoedd a dioddefwyr yn neilltuol. Bydd casgliadau’r adroddiad ac argymhellion yr arolygydd yn eu cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau o safon gyson uchel ar gyfer yr holl bobl ifanc yn eu gofal."

 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint cliciwch yma.