Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galwad terfynol am geisiadau ar gyfer Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau

Published: 02/08/2024

Mae pobl a sefydliadau lleol yn cael eu hannog i wneud cais am grant i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau i wella canol trefi Sir y Fflint.

Lansiwyd y cynllun grant ar ôl i fwy nag £1.1 miliwn gael ei ddyfarnu i dîm adfywio’r Cyngor o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Caiff yr arian ei wario ar 7 prosiect sy’n anelu at wella canol trefi Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn o leiaf £500 ac uchafswm o £10,000 tuag at ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn gwneud canol eu trefi’n fwy bywiog. Disgwylir i ymgeiswyr ddod o hyd i o leiaf 20 y cant o’r gost gyffredinol a bydd hyd at 80 y cant o gyfanswm y gost ar gael o’r cyllid grant.

Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Os ydych yn angerddol am ganol eich tref neu gymuned, byddwn yn eich annog i wneud cais. Bydd y gweithgareddau a’r digwyddiadau hyn o fudd mawr i ganol ein trefi ac yn dod â phobl at ei gilydd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi wedi gweld gostyngiad yn nifer eu hymwelwyr a bydd y cyllid hwn yn helpu i fywiocau ein cymunedau eto.”

Caiff ceisiadau eu cyflwyno i baneli misol i’w hasesu a’u hystyried, fodd bynnag, mae cyfyngiad ar faint o gyllid sydd ar gael felly dyma alwad terfynol am geisiadau i baneli mis Awst a mis Medi.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk