Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gweithredu Hinsawdd Lleol: Pecynnau Gwaith Hinsawdd i Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned
Published: 14/08/2024
Ym mis Mawrth eleni, bu i dîm Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint lansio Pecynnau Gwaith Hinsawdd cyntaf yr awdurdod a ddyluniwyd i rymuso ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned Sir y Fflint i weithredu i fynd i’r afael ag un o faterion mwyaf dybryd ein hoes.
Oherwydd lefelau cynyddol allyriadau carbon deuocsid yn ein hatmosffer yn sgil llosgi tanwyddau ffosil, mae newid hinsawdd yn cyflwyno mwy o risgiau i drigolion Sir y Fflint megis gwres llethol, rhagor o achosion o lifogydd, iechyd gwael a chostau byw cynyddol. I fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd hwn, mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â chyrff sector cyhoeddus eraill Cymru yn gweithio’n galed i leihau ei allyriadau i Sero Net erbyn 2023, gan olygu na fydd cyfraniad pellach o allyriadau carbon.
Mae’r pecynnau gwaith hinsawdd hyn wedi cael eu creu er mwyn gallu ehangu a chynyddu camau gweithredu ac ymgysylltu ar hinsawdd drwy roi dealltwriaeth, adnoddau a chefnogaeth i Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned allu lleihau eu hallyriadau carbon eu hunain a chefnogi eraill i weithredu. Mae nodweddion allweddol yn cynnwys y ddogfen ganolog, cyfrifianellau carbon, archwiliad amgylcheddol ysgol a chynlluniau gwersi, cyfleoedd ymgysylltu a phwyntiau allweddol o gefnogaeth a chyllid. Mae’r pecynnau gwaith ar gael yn gyhoeddus ar Dudalen Gwe Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint.
Mae manteision y pecynnau gwaith yn cynnwys mwy na lleihau allyriadau carbon yn unig. Anogir ysgolion i ganiatáu i bobl ifanc arwain ar y broses drwy’r gweithgareddau a ddarperir, er mwyn iddynt allu datblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol maent eu hangen i reoli data, gwneud penderfyniadau, cefnogi camau gweithredu ac, yn y pendraw, lleisio eu barn. O ran Cynghorau Tref a Chymuned, fe’u hanogir i sicrhau bod y cymunedau lleol a’r busnesau maent yn eu gwasanaethu hefyd yn ymgysylltu i leisio eu barn ac yn cael y cyfle i gefnogi camau gweithredu yn eu hardal leol.
Ers y lansiad, mae’r tîm newid hinsawdd wedi darparu llawer o weithdai a chyflwyniadau i godi ymwybyddiaeth a datblygu dealltwriaeth ynglyn â sut mae’r adnoddau’n gweithio. Y camau nesaf ar gyfer y gwaith hwn yw cyflwyno’r pecynnau gwaith i Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru, a pharhau i weithio gydag ysgolion a chynghorau tref a chymuned i gefnogi eu camau gweithredu a dysgu sut y gellir datblygu’r adnoddau ymhellach.
Os hoffech weld eich ysgol neu gyngor lleol yn cymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, siaradwch â nhw’n uniongyrchol, ac os ydych yn ysgol neu’n gyngor tref neu gymuned sy’n awyddus i drafod hyn ymhellach, cysylltwch â’r tîm Newid Hinsawdd yma: climatechange@flintshire.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd, “mae darpariaeth y pecynnau gwaith hinsawdd hyn yn gam pwysig iawn ar gyfer ein sir ehangach i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd dybryd. Mae sgyrsiau cyffrous eisoes wedi cael eu cynnal o amgylch eu defnydd ac maent yn gyfle ardderchog i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ein pobl ifanc, gan roi llais iddyn nhw a chymunedau lleol ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r ymdrechion hyn ac yn annog cymaint o’u defnydd â phosibl.”