Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu diwrnod canlyniadau

Published: 15/08/2024

Mae myfyrwyr chweched dosbarth mewn ysgolion yn Sir y Fflint yn dathlu wrth i ddosbarth 2024 gael eu canlyniadau arholiad.

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant:

“Mae’r Cyngor yn llongyfarch pob dysgwr ôl-16 yn Sir y Fflint am eu gwaith caled wrth gyflawni eu canlyniadau.

“Rydw i’n gwybod bod y bobl ifanc hyn wedi gweithio’n galed, a gobeithio y bydd y cymwysterau maen nhw wedi’u hennill heddiw yn eu galluogi i symud i gam nesaf eu taith, boed hynny mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Rwy’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw.

“Wrth i ni ddathlu’r canlyniadau hynny, rydyn ni’n cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth broffesiynol ein hysgolion a’n hathrawon wrth baratoi eu myfyrwyr ar gyfer eu harholiadau a hefyd am y gefnogaeth gan eu rhieni a’u gofalwyr dros y blynyddoedd.”

 Dywedodd Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid:

Fe hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ôl-16 ar eu canlyniadau eleni.

“Mae hyn yn benllanw blynyddoedd o waith caled ar ran myfyrwyr Sir y Fflint ac ymroddiad a dawn eu staff wrth eu paratoi ar gyfer eu harholiadau. Gall pob person ifanc fod yn falch iawn o’u cyflawniadau a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu dyfodol.

“Rwy’n cydnabod cefnogaeth eu teuluoedd hefyd wrth eu harwain trwy gydol eu hastudiaethau.

 “Bydd ein staff ysgol ymroddedig iawn yn parhau i gynnig cymorth a chyngor i ddysgwyr dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth wneud dewisiadau am lwybrau’r dyfodol.”