Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu Canlyniadau TGAU

Published: 22/08/2024

Mae myfyrwyr ar draws Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU.

Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg a Diwylliant: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o’n dysgwyr i gyd am eu holl waith caled i gael y graddau maen nhw wedi eu cael.

“Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i hyfforddiant neu waith addas.  Rwy’n dymuno’n dda i bob un ohonynt ac rwy’n eu hannog i barhau i geisio cyflawni’r gorau posib.”

Dywedodd Claire Homard Prif Swyddog, Addysg ac Ieuenctid: “Hoffwn longyfarch ein dysgwyr i gyd sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU.  Mae’r dathliadau heddiw yn benllanw o’u hymrwymiad a’u gwaith caled a hefyd ymrwymiad y staff yn ein hysgolion wrth eu haddysgu a’u cefnogi.  Fe hoffwn hefyd gydnabod gwaith y rhieni a gofalwyr yn cefnogi ac annog eu plant dros flynyddoedd eu haddysg, a diolch iddynt am weithio mewn partneriaeth gyda’n hysgolion.

“Rydw i’n dymuno pob llwyddiant i ddysgwyr gyda’u camau nesaf.  Rydw i’n gwybod y bydd ein hysgolion yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chyngor i ddysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau am lwybrau’r dyfodol a pharatoi ar gyfer mis Medi.”