Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyn ac ar ôl: Gweddnewid siop yng Nghei Connah

Published: 23/08/2024

Mae busnes arall yn Sir y Fflint wedi elwa o bartneriaeth adfywio uchelgeisiol rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth y DU.

Mae tîm adfywio’r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus o ran sicrhau ychydig dros £1.5 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu rhaglen o brosiectau buddsoddi canol y dref yn Sir y Fflint.

Mae Full Circle Security Systems Ltd yng Nghei Connah wedi elwa o’r Cynllun Grant Gwella Eiddo a’r Rhaglen Cymorth i Fusnesau.FCSS after.jpg

Fel rhan o’r rhaglen fuddsoddi, mae busnesau cymwys wedi gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £50,000 i dalu am hyd at 70% o waith gwelliannau i eiddo.

Cyn i’r cyllid gael ei ddyfarnu, roedd 88-90 Stryd Fawr, Cei Connah, wedi cael ei drafod am 18 mis ac wedi dirywio.  Bellach mae adeilad Full Circle Security Systems Ltd wedi’i ailwampio i safon uchel.  Gosodwyd ffenestri, drysau a tho newydd sy’n fodern ac yn effeithlon o ran ynni ac mae mwy o waith wedi’i wneud i wella edrychiad a gwydnwch yr adeilad y tu mewn a’r tu allan ac i’w wneud yn fwy addas i’r diben.  Yn ychwanegol at hyn, mae gan Full Circle Security Systems Ltd ofodau swyddfa sydd wedi’u hadnewyddu’n llwyr uwchben eu swyddfeydd y maent yn awr yn eu defnyddio ar gyfer y busnes sy’n tyfu. 

Dywedodd Daniel Farrell, perchennog yr adeilad a’r busnes:  “Mae chwistrellu cyfalaf o’r cynllun grant wedi cyfrannu’n sylweddol at fomentwm a llwyddiant y datblygiad.  Mae’r eiddo newydd yn llawer mwy addas i’r diben a bydd y gwelliannau yn rhoi amgylchedd gwaith gwell i ni a mwy o le i dyfu ein busnes.”

Yn ychwanegol at y gwelliannau i’r eiddo, mae’r busnes wedi elwa o’r Prosiect Cefnogaeth i Fusnesau.  Mae tîm adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi comisiynu Achub y Stryd Fawr i redeg y prosiect hwn yn defnyddio eu harbenigedd a’u profiad.  

Fel rhan o’r prosiect, mae pob busnes yn cael gwiriad iechyd lle mae pob agwedd o’u gweithrediad yn cael ei ddadansoddi.  Yna bydd Achub y Stryd Fawr yn helpu ac yn cefnogi i wella agweddau o’r busnes neu i’w symud ymlaen o ran eu nodau busnes. 

Mae Full Circle Security Systems Ltd wedi cwblhau eu rhaglen bwrpasol 8 wythnos o gefnogaeth.FCSS before.jpg

Dywedodd Tarah Tomkins, Rheolwr Gweithrediadau: “Mae’r rhaglen yn fuddiol iawn i fusnesau o bob maint.  Mae gennym sail wych a bellach mae gennym gynlluniau strategaeth gwych.”

Ychwanegodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi:  “Mae’r rhaglen o gefnogaeth hon yn hanfodol er mwyn adfywio economïau cynaliadwy canol trefi yn Sir y Fflint ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n braf gweld busnesau fel Full Circle Security Systems Ltd yn derbyn cefnogaeh i gyflawni eu dyheadau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Grantiau Gwella Eiddo Canol Tref a Rhaglen Cymorth i Fusnesau Achub y Stryd Fawr, anfonwch e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk