Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyrraedd carreg filltir ar gyfer cartref gofal £18miliwn newydd yn Sir y Fflint

Published: 10/09/2024

Cyrhaeddwyd carreg filltir fawr drwy adeiladu cartref gofal newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn y Fflint.

Mynychodd partneriaid a rhanddeiliaid o Gyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Willmott Dixon, Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol seremoni gosod carreg gopa ar safle Cornist Road i nodi cwblhau pwynt uchaf yr adeilad.ICP_090924_TY CROES ATTI_03.jpeg

Bydd y prosiect,  y disgwylir iddo gael ei gwblhau’n llwyr erbyn yr haf 2025 yn cynnig llety i 56 o bobl hyn ar safle’r hen ysbyty cymunedol. 

Bydd yn gweld cartref gofal presennol yn yr ardal yn adleoli ac yn ymestyn ei gapasiti presennol o 31 gwely. Bydd gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael eu darparu gan dimau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.

Fel rhan o’r ymweliad i’r safle adeiladu, gwahoddwyd mynychwyr i lofnodi siafft y lifft i gofio’r foment arbennig.ICP_090924_TY CROES ATTI_14.jpeg

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cyngor Sir y Fflint: “Mae’n anrhydedd bod yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn ac roedd yn wych gweld yr adeilad trawiadol hwn yn datblygu. 

“Mae’r sector gofal yn Sir y Fflint yn gweithio o fewn amgylchedd cynyddol heriol ac felly fel cyngor rydym yn cymryd camau cadarnhaol i ddatblygu cartrefi gofal sy’n gwerthfawrogi pobl hyn a darparu cefnogaeth dda, o ansawdd sy’n ein rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r prosiect hwn yn datblygu a hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am eu gwaith caled.”

Mae’r cynllun £18 miliwn yn cael ei ariannu drwy raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint a’i gefnogi gan ychydig dros £11 miliwn drwy raglenni cyfalaf Cronfa Gyfalaf Integredig ac Ailgydbwyso (IRCF) a’r Gronfa Tai â Gofal (HCF) Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:  “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o waith partneriaeth ar gyfer darparu i bobl yn Sir y Fflint. 

“Bydd yn helpu i ddatblygu’r math o gapasiti cymunedol rydym ei angen ar gyfer y modelau gofal integredig newydd yr ydym yn eu blaenoriaethu ar draws Cymru.  Rwy’n falch o weld y garreg filltir fawr hon yn cael ei dathlu yn Nhy Croes Atti.”

Ychwanegodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:  “Roeddwn yn falch o fod yn bresennol yn y seremoni cwblhau’r to i nodi pwysigrwydd y cartref gofal newydd yng Nghroes Atti.

“Bydd yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol integredig o ansawdd uchel ynghyd â thimau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint a chefnogi pobl yn y gymuned mor agos i’r cartref â phosibl. ICP_090924_TY CROES ATTI_18.jpeg

“Diolch am y gwaith partneriaeth parhaus gyda Chyngor Sir y Fflint byddwn yn gallu darparu mwy o gefnogaeth i bobl yn yr ardal.”

Dywedodd Mike Lane, cyfarwyddwr gweithrediadau Willmott Dixon: “Rydym yn falch o fod yn darparu prosiect mor bwysig sy’n ehangu’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o safon uchel ar gyfer cymuned y Fflint.

 

“Wrth i’r cynnydd barhau, ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint a’n holl bartneriaid, rydym wedi creu chwe chyfle cyflogaeth newydd hyd yma i bobl leol a darparu 197 o fentrau addysg a gyrfaoedd mewn ysgolion a cholegau lleol.”

Mae Cyngor Sir y Fflint nawr yn recriwtio gweithiwr gofal a chefnogaeth i ymuno â’n timau ymroddgar a leolir yn Nhy Croes Atti pan fydd yn agor yn y gwanwyn 2025.   Bydd holl aelodau newydd o’r tîm yn derbyn rhaglen sefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr ac yn cael budd o’r gefnogaeth ac arweiniad tîm rheoli profiadol.

Os hoffech wybod mwy am y cyfleoedd cyffrous hyn, gallwch anfon e-bost at socialservicesrecruitment@flintshire.gov.uk neu ffonio Croes Atti ar 01352 733598.

Am fwy o wybodaeth am gartrefi gofal yn Sir y Fflint, cliciwch yma