Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn ffarwelio â Chofrestrydd Arolygol

Published: 23/09/2024

Mae Cofrestrydd o Sir y Fflint sydd wedi gweinyddu priodasau miloedd o gyplau lleol yn ymddeol. Noelle.jpg

Mae Noelle Baston, Cofrestrydd Arolygol yng Nghyngor Sir y Fflint, yn gadael ddiwedd mis Medi yn dilyn 27 mlynedd ymroddgar gyda’r Gwasanaeth Cofrestru.

Wedi’i lleoli yn y Swyddfa Gofrestru yn Neuadd Llwynegrin yn Yr Wyddgrug, mae Noelle yn cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.  

Dros y tair degawd ddiwethaf, mae hi wedi priodi tua 3,000 o gyplau ac mae hi’n falch ei bod wedi chwarae rhan yn eu diwrnod arbennig. 

Meddai Linda Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae Noelle wedi ymroi’r 27 mlynedd diwethaf i’r Gwasanaeth Cofrestru ac mae hi wedi cefnogi teuluoedd ar draws Sir y Fflint ac ymhellach i ffwrdd i gofrestru digwyddiadau pwysig bywyd.   

“Ar ran y Cyngor ac yn enwedig ei chydweithwyr yn y Gwasanaeth Cofrestru, rwy’n dymuno ymddeoliad hapus ac iach iddi”. 

Ar ôl arwain y Gwasanaeth Cofrestru drwy nifer o newidiadau amlwg dros y blynyddoedd, fe fydd Noelle yn ymddeol i dreulio mwy o amser gyda’i gwr Pete a’u dau fab.  

Meddai Rebecca Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid: “Pan fydd Noelle yn ymddeol ar ddiwedd y mis, fe fydd y Gwasanaeth Cofrestru yn ffarwelio ag unigolyn mor ymroddedig. Mae Noelle wedi rhoi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob amser, o gefnogi pobl yn ystod adegau gwaethaf eu bywydau tra’n cofrestru marwolaeth, i helpu eraill i ddathlu achlysuron arbennig tra’n gweinyddu priodasau.    

“Mae hi’n amser rwan i Noelle ymlacio, yn enwedig rhwng mis Ebrill a mis Medi, sef cyfnodau prysuraf tymor y priodasau, a mwynhau amser gyda’i theulu.   Fe fydd yna golled fawr ar ôl Noelle ac rydym ni gyd yn dymuno ymddeoliad hapus iddi.”