Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cysylltu Cei Connah â Llwybr Arfordir Cymru – Arolwg Cerdded, Beicio a Mynd ar Olwynion
Published: 25/09/2024
Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid cychwynnol i asesu dichonoldeb gwella cysylltiadau cerdded, beicio a mynd ar olwynion (er enghraifft cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a phramiau) rhwng Cei Connah a Llwybr Arfordir Cymru.
Er bod modd cael mynediad i'r arfordir trwy Dock Road, nid yw'n llwybr uniongyrchol a gallai pryderon diogelwch posibl atal rhai pobl rhag ei ddefnyddio. Mae pont i gerddwyr Stryd y Bont yn gyfleuster defnyddiol ar gyfer cerddwyr abl, ond ni all unigolion nad ydynt yn gallu defnyddio grisiau na beicwyr ei defnyddio. Pe gellid gwneud gwelliannau o ran mynediad/ diogelwch, byddai’n cynnig gwell cysylltiad rhwng y dref a’r arfordir, yn gwella mynediad at natur a mannau gwyrdd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd a lles y boblogaeth leol.
Wrth gwrs, byddai angen i unrhyw welliannau ystyried cyfyngiadau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi:
“Ar hyn o bryd, nid yw cysylltiadau hygyrch o ran cerdded, beicio a mynd ar olwynion rhwng Cei Connah a Llwybr Arfordir Cymru wedi’u datblygu’n dda, gyda’r dref wedi’i gwahanu i raddau helaeth oddi wrth arfordir Glannau Dyfrdwy.
“Gan weithio’n agos â Phrosiectau Cludiant Lleol, mae’r Cyngor yn gwahodd pobl leol i gyflwyno eu safbwyntiau ynghylch materion cerdded, beicio a mynd ar olwynion hygyrch yn yr ardal a syniadau ar gyfer gwneud gwelliannau.”
Mae dolen i’r arolwg ar gael ar wefan y Cyngor.