Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad Cyngor Sir y Fflint yn ymwneud ag Aura

Published: 26/09/2024

Fe fydd contract Cyngor Sir y Fflint gyda Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyf. yn dod i ben fis nesaf.

Fe ddaw hyn yn dilyn trafodaethau maith rhwng y Cyngor ac Aura eleni er mwyn sicrhau cytundeb hirdymor i ddarparu  gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd yn y Sir. 

Fe gynigiwyd contract newydd i Aura, ond cafodd ei wrthod.  Mae’r Cyngor yn siomedig nad oedd modd dod i gytundeb ar drefniant mwy hirdymor o ystyried yr ymrwymiad gan aelodau a swyddogion, a’r camau cadarnhaol a gymerwyd i geisio dod o hyd i ddatrysiad. 

Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod cynllun cadarn ar waith ac wedi ei egluro yn barod pan fydd y cytundeb presennol yn dod i ben ar 31 Hydref. Y prif ffocws bellach fydd lleihau aflonyddwch i ddefnyddwyr gwasanaeth a rhoi sicrwydd i weithwyr Aura.