Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio Eiddo Canol Tref yr Wyddgrug

Published: 26/09/2024

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn dathlu darparu ei ‘Grant Gwella Eiddo Canol y Dref’ yn llwyddiannus mewn partneriaeth â pherchnogion eiddo a busnesau lleol.

Mae Tîm Adfywio’r Cyngor wedi sicrhau £1.5 miliwn o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a £400,000 o’r cyllid hwnnw’n cael ei neilltuo i gynllun y Grant Gwella Eiddo. Mae busnesau cymwys wedi gallu gwneud cais am grantiau o hyd at £50,000 i dalu am hyd at 70% o gostau gwaith gwella eiddo. Ers mis Gorffennaf 2023, mae mwy na £375,000 o gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi’i ddyfarnu i fusnesau a pherchnogion eiddo ar draws Sir y Fflint, gan arwain at fuddsoddi cyfanswm o £600,000 yn lleol rhwng y partneriaethau hyn.87 High St Mold.jpg

Un enghraifft o bartneriaeth yw pan gysylltodd Julian Lloyd Roberts â Thîm Adfywio’r Cyngor ym mis Mai 2023 yn cynnig prosiect i adfywio 87 y Stryd Fawr yn yr Wyddgrug. Roedd yr adeilad yn arfer cael ei ddefnyddio fel swyddfa cyfreithiwr ond roedd wedi bod yn wag am ddwy flynedd ac wedi mynd â’i ben iddo’n gyflym. Y bwriad oedd adnewyddu’r adeilad y tu mewn a’r tu allan i’w ddefnyddio fel llety gwyliau. Mae’r adeilad ym mhen uchaf y Stryd Fawr, ger Bryn y Beili a’r Eglwys a gyferbyn â thafarn y Dolphin ac felly mae mewn lle gwych i ddenu twristiaid dros benwythnosau ac am wyliau byr. 

Dywedodd y Cyng. David Healey, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, fod cynlluniau i gefnogi economïau lleol yn Sir y Fflint yn hynod bwysig: “Mae datblygiadau cyffrous yn yr Wyddgrug, yn enwedig y buddsoddiad diweddar yn Theatr Clwyd. Mae rhaglenni buddsoddi fel y Grant Gwella Eiddo Canol y Dref, sydd wedi’i sefydlu gan ein Tîm Adfywio ni, yn hollbwysig i ddatblygu isadeiledd lleol i gynnal economïau canol trefi a thwristiaeth sy’n tyfu yn Sir y Fflint.”

Gyda chyfraniad cyfartal o 50:50 o gyllid grant a chyllid gan yr ymgeisydd, roedd Julian yn gallu adnewyddu 87 y Stryd Fawr i safon uchel, gan fodloni’r holl ofynion ar gyfer llety gwyliau i hyd at saith o bobl. Yn ogystal â darparu gwaith ar gyfer crefftwyr lleol yn ystod y gwaith ailddatblygu, mae’r eiddo hwn oedd gynt yn wag bellach yn fusnes gweithredol sy’n darparu incwm i’r holl rai sydd ynghlwm â’i reoli o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae ymwelwyr sy’n aros yn yr eiddo ar ei newydd wedd yn ymweld â safleoedd lleol ac yn defnyddio gwasanaethau lleol. Roedd Julian, perchennog yr eiddo a’r busnes, yn canmol ei brofiad gyda chynllun y grant gwella eiddo’n fawr iawn: 

“Ein nod ni oedd sicrhau budd i’r dref leol ac roeddem eisiau gwneud y mwyaf o’r cyfle. Gydag arweiniad a chymorth gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, fe wnaethom lwyddo i gwblhau’r prosiect ar amser ac o safon uchel. Fe fyddwn yn sicr yn argymell y cynllun hwn.”    

Mae’r ty tref tri llawr sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd ac yn gain gyda thema Fictoraidd, St Mary’s Chamber, 87 y Stryd Fawr yn yr Wyddgrug, bellach ar gael fel llety gwyliau yma

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am unrhyw gynlluniau grant cyfredol neu rai sydd i ddod i wella eiddo, cysylltwch â regeneration@flintshire.gov.uk