Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Darpariaeth Addysg yn Ardal Saltney a Brychdyn
Published: 30/09/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn addysg yn ardal Brychdyn a Saltney ar ôl ymgysylltu â’r gymuned.
Fe ymatebodd dros 1,500 o bobl i ymarfer ymgysylltu cynnar i gael syniad o safbwyntiau’r gymuned o ran siapio dyfodol darpariaeth addysgol yn yr ardal yn y dyfodol.
Datgelodd yr ymgynghoriad fod y gymuned yn deall yr angen am newid, ond yn bennaf yn dymuno i’r Cyngor gadw eu hysgolion presennol a gwneud gwaith adnewyddu a/neu godi estyniadau i’r adeiladau presennol.
Yn dilyn ymrwymiad gan y Cabinet i barhau i gefnogi buddsoddiad yn addysg Sir y Fflint, cytunwyd i roi buddsoddiad cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Dewi Sant i fynd i’r afael â phroblemau o ran capasiti a chefnogi gwelliannau i addysgu a dysgu drwy raglen fawr o adnewyddu ac ail lunio.
Mae data ysgolion cynradd yn dangos y byddai dwy o’r tair ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg presennol yn ardal Saltney a Brychdyn yn ddigonol i fodloni galw’r disgyblion a chreu model fwy cynaliadwy o ran darpariaeth ar gyfer y dyfodol. Y dewis a ffefrir gan y Cyngor yw bod Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood yn cael eu huno yn un ysgol ar safle presennol Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood mewn cyfleuster addysgol newydd sbon o’r radd flaenaf gydag Ysgol Gynradd Brychdyn yn aros yr un fath.
Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall penderfyniadau fel hyn gael effaith sylweddol ar gymunedau a gwneir penderfyniadau fel hyn gydag ystyriaeth ofalus – yr amcan cyffredinol yw i sicrhau cynnig addysgol o ansawdd uchel bob amser a’r defnydd gorau o adnoddau ariannol. Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus llawn gael ei gynnal ar y newidiadau arfaethedig hyn ar gyfer yr ysgolion cynradd yn ystod tymor yr Hydref 2024.
Mae’r Cyngor wedi croesawu cyfraniad y Cynghorwyr lleol a chymunedau lleol yn Saltney a Brychdyn i’w ymgynghoriad ymgysylltiad cynnar a bydd yn parhau i weithio’n agos gyda’r ysgolion yn yr ardal a phreswylwyr lleol i ddatblygu ymhellach gynnig dysgu bywiog a modern sy’n darparu’r canlyniadau gorau i fyfyrwyr.