Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dweud eich dweud! Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft
Published: 24/10/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint yn awyddus i gael safbwyntiau ar nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft yn ymwneud â:
- Gofod o Amgylch Anheddau
- Cadw Cyfleusterau Lleol
- Tai Fforddiadwy
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd:
“Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn egluro’r ymagwedd y bydd y Cyngor yn ymgymryd â hi wrth fynd i’r afael â chynigion datblygu.
“Nid yw’r canllawiau’n cyflwyno unrhyw bolisïau newydd, ond yn hytrach yn ceisio egluro sut y dylid dehongli’r polisïau perthnasol a’u gweithredu. Os mabwysiadir y Canllawiau Cynllunio Atodol wedi’r ymgynghoriad, byddant yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau. Byddai modd defnyddio’r Canllawiau, felly, yn ystod y camau cyntaf wrth ddylunio datblygiad newydd.”
Fe agorodd yr ymgynghoriad ddydd Llun 23 Medi a bydd yn cau ddydd Llun 4 Tachwedd 2024. Gellir gweld y dogfennau ar wefan y Cyngor ac mae copïau hefyd ar gael yn Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu, yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug a Thy Dewi Sant, Ewlo.