Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwmni newydd i ofalu am lyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden Sir y Fflint

Published: 25/10/2024

Bydd gwasanaethau llyfrgell a hamdden Sir y Fflint yn gweithredu dan enw newydd o fis nesaf ymlaen.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol i gymryd drosodd gan y darparwr presennol, Aura, pan ddaw’r contract i ben ar 31 Hydref.

Cynigiwyd contract hirdymor i Aura yn gynharach eleni ond  gwrthododd y cwmni ei arwyddo. Felly Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint fydd yn gyfrifol am redeg llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, amgueddfeydd a gwasanaethau chwarae’r sir o fis Tachwedd eleni. 

Rydym yn bwriadu ailagor ein gwasanaethau yn ôl yr arfer ar 5 Tachwedd cyn belled bod gwneud hynny’n ddiogel ac  yn cydymffurfio â’r holl ofynion, ac ar ôl ad-drefnu’r busnes fel sy’n angenrheidiol. Mae gan yr holl staff sy’n gweithio i Aura hawl i drosglwyddo i Lyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint ar eu telerau presennol a disgwylir iddynt ddod i’r gwaith yn ôl yr arfer.

Yn anffodus ni fydd yn bosibl anrhydeddu unrhyw drefniadau bwcio a wnaed gydag Aura ar gyfer y cyfnod 1 - 4 Tachwedd a bydd unrhyw arian yn cael ei ad-dalu. Nid yw’r wybodaeth angenrheidiol i gysylltu â chwsmeriaid Aura ar gael i’r Cyngor a gofynnwyd i Aura roi gwybod i’r rhai y bydd cau’r gwasanaethau am gyfnod byr yn effeithio arnynt.

Bydd Aura yn cysylltu’n fuan ag unrhyw un sy’n talu tanysgrifiadau drwy ddebyd uniongyrchol i egluro’r broses drosglwyddo, ond gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl y bydd Cyngor Sir y Fflint a Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn casglu taliadau debyd uniongyrchol yn lle Aura ac na fydd angen iddynt lenwi cyfarwyddiadau debyg uniongyrchol newydd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor – y Cynghorydd Dave Hughes: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Lyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint ac rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel i bobl y sir.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau trosglwyddiad di-dor gyda cyn lleied â phosibl o darfu ar gwsmeriaid, fodd bynnag bydd angen gwneud rhai trefniadau dros dro wrth i ni sefydlu model newydd o ddarpariaeth. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir, fodd bynnag mae’n rhaid i’r Cyngor gymryd amser i sicrhau bod yr holl adeiladau ac offer yn ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid ac yn cydymffurfio â’r holl amodau angenrheidiol.

“Hoffwn ddiolch i Aura am eu gwaith dros y saith mlynedd ddiwethaf;  mae’n anffodus nad oedd mod dod i gytundeb newydd a fyddai’n bodloni’r gofynion cyllid grant. Mae’r gweithwyr wedi dangos angerdd ac ymroddiad ac rwy’n gobeithio y gallwn yn awr symud ymlaen gyda’n gilydd a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau ar gyfer pobl Sir y Fflint.”

 

Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn Cyngor Sir y Fflint ar Facebook ac X