Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn buddsoddi mewn ateb arloesol i dyllau yn y ffordd

Published: 28/10/2024

 Yn sgil gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb a’r pwysau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd camau pendant i sicrhau effeithlonrwydd cynnal a chadw ffyrdd a’u hirhoedledd drwy gaffael ‘JCB Pot Hole Pro’ – peiriant chwyldroadol a ddyluniwyd i fynd i'r afael â her barhaus tyllau yn y ffyrdd. 

Mae'r cam hwn yn rhan o strategaeth ehangach y Cyngor i lywio toriadau yn y gyllideb drwy fuddsoddi'n ddoeth mewn technoleg sy'n arbed arian ac yn gwella gwasanaethau dros y tymor canolig a'r hirdymor.

Mae cyflwyno'r ‘JCB Pot-Hole Pro’ yn elfen allweddol o athroniaeth 'buddsoddi i arbed' Cyngor Sir y Fflint, sy'n blaenoriaethu arbedion hirdymor ac enillion effeithlonrwydd dros fesurau adweithiol byrdymor.Pothole Pro - Image 1.jpg

Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Dave Hughes: “Mae buddsoddiadau fel hyn yn hanfodol i foderneiddio gwasanaethau a sicrhau y gallwn barhau i gynnal a gwella ein hisadeiledd yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl, er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil y toriadau yn y gyllideb.

“Drwy gynllunio gofalus a buddsoddi mewn arloesedd, credwn y gallwn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ac effeithlon i Sir y Fflint.”

Meddai Carolyn Thomas, Aelod o’r Senedd ar gyfer Gogledd Cymru: “Mae’n braf gweld Cyngor Sir y Fflint yn defnyddio datrysiadau arloesol fel y Pothole Pro i gynnal a chadw priffyrdd ar draws y sir.

“Mae gan awdurdodau lleol fel Sir y Fflint gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ar faterion priffyrdd, a dyna pam fy mod mor awyddus i weld cyllid priffyrdd Llywodraeth Cymru yn cael ei ddatganoli i awdurdodau lleol ymhellach. Byddai hyn yn rhoi rheolaeth i gynghorau, fel Sir y Fflint, dros sut maent yn gwario’r arian a roddir iddynt, gan roi mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i sicrhau bod preswylwyr yn cael y gwerth gorau am arian, yn ogystal â’r datrysiadau cynnal a chadw priffyrdd gorau.

“Mae’r Prif Weinidog wedi gwneud trwsio ffyrdd yn flaenoriaeth a dw i wedi bod yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth ar ffyrdd i sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer hynny yn y gyllideb a osodir ar gyfer cludiant.”

Bydd gallu datblygedig y peiriant yn arwain at atgyweiriadau ffyrdd mwy gwydn, gan leihau amlder tyllau yn y ffyrdd ac ymestyn oes ffyrdd y sir. Nid yn unig y bydd hyn yn golygu teithiau gwell, mwy diogel i drigolion, ond mae hefyd yn arwain at arbedion cost sylweddol drwy leihau'r angen am atgyweiriadau parhaus, a all achosi aflonyddwch a gwariant mawr.

Mae’n bosibl bod trigolion eisoes wedi gweld y peiriant newydd ar y ffyrdd dros yr haf eleni. Mae’r ‘Pot-Hole Pro’ wedi bod yn gwella ffyrdd ar hyd a lled Sir y Fflint ers mis Ebrill, gan gynnwys yr A451 yn Rhosesmor, Star Crossing yng Nghilcain, cylchfannau Tesco yn yr Wyddgrug, rhannau o’r A548 a Stryd Brynford yn Nhreffynnon.