Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn croesawu adroddiad gofal gan yr Ombwdsmon
Published: 31/10/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar wasanaethau i ofalwyr.
Cynhaliodd Michelle Morris ymchwiliad ‘Ar ei Liwt ei Hun’ i sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau i gynnig asesiad o anghenion i bob gofalwr os oes arnynt angen cefnogaeth ychwanegol.
Mae tua 18,000 o ofalwyr yn Sir y Fflint ac mae llawer ohonynt yn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu drwy Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC), sefydliad a gomisiynwyd gan y Cyngor.
Ystyriodd yr Ombwdsmon y prosesau ar gyfer cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd ymgynghorydd arweiniol yr Ombwdsmon fod gofalwyr yn gyffredinol yn cael eu holi am eu profiadau a’u bod yn gallu mynegi ac archwilio ystod ac amrywiaeth eang o anghenion cefnogi. Dywedodd yr adroddiad fod y pedwar awdurdod wedi asesu’n effeithiol a oedd ar ofalwyr sy’n oedolion angen cefnogaeth, ac wedi gweithio gyda’r gofalwyr i ddynodi beth oedd yr anghenion hynny.
Tynnodd yr Ombwdsmon sylw at sawl maes o arfer da yn Sir y Fflint, yn ogystal â gwneud nifer o argymhellion ar gyfer datblygu gwasanaethau.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, y Cynghorydd Christine Jones: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfraniad allweddol mae gofalwyr o bobl oed yn ei wneud i gefnogi eu hanwyliaid.
“Rwyf yn falch iawn o’r ystod eang o wasanaethau gofalwyr rydym yn eu darparu yma yn Sir y Fflint, yn fewnol a gyda phartneriaid. Rwyf yn falch o weld bod yr Ombwdsmon wedi nodi arfer da o ran cefnogi gofalwyr yn Sir y Fflint ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau ac yn croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan: “Hoffem ddiolch i’r Ombwdsmon am dynnu sylw at gyfraniad gofalwyr di-dâl i gymdeithas. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar elfen o ystod llawer mwy eang o gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn Sir y Fflint. Mae GOGDdC yn darparu achubiaeth i ofalwyr o bob oed a chefndir ac yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i fodloni anghenion unigol.
“Rydym yn ymdrechu’n barhaus i godi ymwybyddiaeth am ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ac yn edrych ymlaen at groesawu’r holl ofalwyr i’n Canolfan Gofalwyr newydd ar Stryd Fawr yr Wyddgrug, fydd yn agor ym mis Tachwedd 2024.”
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael drwy GOGDdC yn cynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant arobryn, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a llawer mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu rôl gofalu, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-dâl.