Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Creu Lleoedd Shotton

Published: 06/11/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi lansio arolwg ymgynghori cyhoeddus digidol, lle anogir pobl leol i helpu i siapio dyfodol Shotton. 

Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023 pan ofynnwyd i’r cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Shotton fel rhan o broses i ddatblygu ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf.  Ar ôl cael dros 1,100 o ymatebion i’r ymgynghoriadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Shotton.

Bellach mae’r Cynllun Creu Lleoedd drafft wedi’i ddatblygu’n seiliedig ar ddata, ymchwil a barn y cyhoedd ac rydym ar y drafft terfynol. Bydd yn cael ei rannu â’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad arall cyn cael ei ystyried ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor a’i bartneriaid allanol sy’n rhan o ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd.

Bydd yr ymgysylltiad diweddaraf hwn yn gyfle i’r cyhoedd weld y cynllun drafft, y prif flaenoriaethau a nodwyd a’r dull arfaethedig ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith. Mae’r arolwg yn gofyn barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a’r camau i’w cymryd. 

Mae gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag ystod o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Mae hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru am i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi: “Yn debyg i nifer o drefi ar draws y wlad, mae strydoedd mawr Sir y Fflint wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil newidiadau i arferion siopa a phandemig covid-19.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer trefi ar draws Sir y Fflint gan eu bod yn allweddol i ddenu prosiectau buddsoddi yn y dyfodol a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar bobl leol a’n heconomi leol”.

Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad a cheisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygiad y cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd ar gyfer ystod o fudd-ddeiliaid i gydweithio er mwyn darparu gwelliannau.

Bydd pobl leol sy’n byw neu weithio ger Shotton yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am eu canol trefi o 28 Hydref 2024 i 15 Tachwedd 2024.

Am fwy o wybodaeth sganiwch yw cod QR isod.

 Welsh Shotton PMP QR code.png

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar-lein presennol, cynhelir ymgynghoriad wyneb yn wyneb yn Shotton. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir am y cyfle hwn i ymgysylltu â’r cynllun.