Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Casgliadau Gwastraff
Published: 07/11/2024
Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu hymdrechion i ailgylchu, sydd wedi golygu ein bod wedi ailgylchu dros 62% o’r gwastraff rydym yn ei gasglu. Gan fod targedau ailgylchu cenedlaethol bellach wedi cynyddu i 70%, gyda’n gilydd, rydym oll angen chwarae ein rhan i fodloni’r her.
Darperir gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd, papur, cardfwrdd, potiau, tybiau a hambyrddau plastig, tuniau a chaniau metel i bob aelwyd, gyda gwasanaethau casglu ychwanegol ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol (e.e. clytiau), gwastraff meddygol a gwastraff gardd ar gael wrth danysgrifio. Pan fydd y gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn, nid oes angen i ni gasglu’r biniau du mor aml, gan mai dim ond ychydig iawn o eitemau gwastraff nad ellir eu hailgylchu ar y stepen drws, neu drwy un o’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Yr unig bethau a ddylid eu gadael yn y biniau du yw gwastraff nad ellir ei ailgylchu neu ei gompostio.
Mae casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu bob wythnos yn hyrwyddo amgylchedd cartref iachach a glanach, gan fod gwastraff gydag arogl neu wastraff budr yn cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr yn fwy aml. Mae cynyddu’r swm o ailgylchu rydym yn ei gasglu hefyd yn helpu’r amgylchedd, trwy leihau’r swm o wastraff sy’n cael ei losgi ac felly’r swm o garbon sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer.
Ers mabwysiadu’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ym Mawrth 2024, mae nifer o gamau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth chwe blynedd wedi lansio, gyda’r nod o gynyddu ein cyfraddau ailgylchu. Un cam gweithredu sylfaenol yw cyfyngu ar y swm o wastraff gweddillol (gwastraff ‘cyffredinol’ nad ellir ei ailgylchu a roddir yn y biniau du ag olwynion) yr ydym yn ei gasglu, gyda’r nod o roi holl ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y cynwysyddion ailgylchu cywir, a gesglir yn wythnosol. Er mwyn gwneud hyn, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor newid i amlder y cesglir biniau du, a fydd yn newid o bob pythefnos i bob tair wythnos. Hefyd cafwyd cymeradwyaeth i ddarparu gwasanaeth casglu dros bum diwrnod gwaith yn hytrach na chwech. Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu, a bydd y rhain yn parhau bob wythnos.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio a pharatoi ar gyfer y newid mewn gwasanaeth a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi y Cyngor ar 12 Tachwedd yn amlinellu’r cynllun gweithredu a’r cynllun cyfathrebu. Mae’r adroddiad yn nodi dyddiad gweithredu cyraeddadwy o 28 Ebrill 2025 ar gyfer y newid, sy’n caniatáu digon o amser ar gyfer cynllunio a chaffael adnoddau.
Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu cefnogaeth barhaus gyda’n gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu, a deallwn pa mor bwysig yw hyn i holl breswylwyr. Rydym eisiau darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, a dyna’r rheswm ein bod yn cymryd yr amser i baratoi a rhannu ein cynlluniau ar gyfer y newid yn llawn.
Dywedodd y Cyng. Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant: “Gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael â hyn! Mae “gyda’n gilydd” yn golygu POB UN OHONOM!! Byddwn ni fel Cyngor yn parhau i ddarparu’r dulliau i ailgylchu bob wythnos, ond bwysicaf oll, rydym angen i CHI, fel preswylwyr gefnogi drwy ailgylchu popeth posibl gan ddefnyddio’r dulliau a ddarperir. Mae targedau ailgylchu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi gosod Cymru ger brig y tabl ar gyfer ailgylchu, a gallwn oll chwarae ein rhan i barhau i gyflawni hyn.
Mae’r penderfyniad anodd i newid i gasgliadau bob tair wythnos ar gyfer ein biniau gwastraff cyffredinol du yn rhan o’r hyn sydd angen i ni wneud i fodloni targedau uwch sydd wedi’u gosod, a’n nod yw ceisio mynd i frig y tabl a bod y gorau. Ble mae Cymru’n mynd, mae eraill yn dilyn!”
Rydym yn annog pob preswylydd i adolygu eu harferion ailgylchu presennol, ac os oes angen, dylent gaffael mwy o fagiau, bocsys a chynwysyddion ychwanegol sydd eu hangen arnynt er mwyn sicrhau na fydd y newid i gasgliadau bin du yn eu heffeithio. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y swm o gynwysyddion ailgylchu y gall unrhyw eiddo eu rhoi allan ar gyfer casglu, ond cyfyngir ar y bin du i un fesul eiddo ac ni fydd gwastraff ychwanegol tu allan i’r bin yn cael ei gasglu.