Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Camau nesaf ar gyfer 20mya yn Sir y Fflint

Published: 08/11/2024

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno nifer o ffyrdd ar draws y sir gyda’r posibilrwydd o’u newid o 20mya i 30mya.

Mae’r cam hwn yn dod ar ôl haf yn gwrando ar bobl leol pan gawsant y cyfle i gael dweud eu barn a darparu adborth ar y ffyrdd yr oeddent yn credu y dylid eu hystyried ar gyfer y newid.

Derbyniodd y Cyngor mwy na 1,000 o geisiadau yn ymwneud â darnau amrywiol o ffyrdd, ac mae swyddogion priffyrdd yn y broses o’u hadolygu a’u hasesu yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn ar draws Cymru.

Ar gyfer unrhyw ffordd y mae’r Cyngor yn credu sy’n addas ar gyfer terfyn cyflymder 30mya, rhaid iddo hysbysu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ffurfiol. Mae hyn yn broses gyfreithiol sydd rhaid ei dilyn ac yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus statudol o 21 diwrnod. Ar y pwynt hwn, bydd gan breswylwyr y cyfle i wrthwynebu neu gefnogi’r newid yn ffurfiol.

Bydd hysbysebion ffurfiol o geisiadau cymwys yn dechrau yn Sir y Fflint ar 8 Tachwedd, 2024. Bydd dwy ffordd yn cael eu hysbysebu bob wythnos hyd nes eir i’r afael â’r holl ffyrdd cymwys - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/Traffic-regulation-orders.aspx

Ni fydd cyfnodau ymgynghori yn gorgyffwrdd â gwyliau’r Nadolig, felly bydd unrhyw ffyrdd sy’n weddill yn cael eu hysbysebu yn Ionawr 2025. 

Unwaith yr hysbysebir, bydd pob cynnig yn agored i adborth cyhoeddus a gwrthwynebiadau ffurfiol. Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu’n ofalus. Bydd hyd y broses adolygu’n dibynnu ar y nifer a chymhlethdod unrhyw wrthwynebiadau a sylwadau cefnogi a dderbynnir.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks: “Rydym wedi gwrando ar adborth y gymuned leol a dros y misoedd nesaf, bydd nifer o ffyrdd yn cael eu hysbysebu ar gyfer newid y terfyn amser. Pan fyddwn yn cynnig newid, byddwn yn cyhoeddi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig statudol a bydd hyn yn cynnig cyfle i breswylwyr a’r rhai a effeithir i wneud sylwadau neu wrthwynebu cyn bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

“Mae diogelwch y defnyddwyr ffordd yn hollbwysig ac felly ni fydd yr holl ffyrdd y gwneir cais amdanynt gan breswylwyr yn bodloni’r meini prawf ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yng nghanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.” 

Ni all y Cyngor weithredu ar unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r polisi 20mya cyffredinol gan fod hyn yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru.