Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn cwblhau prosiect glanhau gwm cnoi ar ôl derbyn cyllid i fynd i’r afael â’r mater ar strydoedd Sir y Fflint.
Published: 11/11/2024
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio ar brosiect i lanhau gwm cnoi a lleihau nifer y bobl sy’n gollwng gwm cnoi ar y stryd gyda chymorth grant y Tasglu Gwm Cnoi, a weinyddir gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi eu bod wedi cwblhau’r cynlluniau i gael gwared â’r gwm cnoi sy’n difetha’r strydoedd lleol ar ôl derbyn grant gwerth £27,500 i fynd i’r afael â’r mater yn gynharach eleni. Roedd y cyngor yn un o 54 o gynghorau ar draws y DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Tasglu Gwm Cnoi, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, am gyllid i lanhau gwm cnoi oddi ar balmentydd ac atal pobl rhag gollwng gwm cnoi ar y strydoedd eto.
Ymysg y gweithgareddau a gynhaliwyd dros y misoedd diwethaf, mae’r timau glanhau wedi cael gwared â gwm cnoi o’r palmentydd a gosod arwyddion.
Caiff y Tasglu ei ariannu gan wneuthurwyr gwm cnoi mawr yn cynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn wedi’i wasgaru dros bum mlynedd. Wedi’i sefydlu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a’i redeg gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Brydain yn Daclus, mae Cynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi ar agor i gynghorau ar draws y DU sydd eisiau glanhau gwm cnoi yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiad hirdymor i atal gwm cnoi rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf.
Mae’r gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Behaviour Change – menter gymdeithasol nid er elw - wedi dangos bod cyfradd is o gwm cnoi yn cael ei ollwng ar y stryd, yn yr ardaloedd sydd wedi elwa o’r flwyddyn gyntaf o gyllid, yn dal i fod chwe mis ar ôl cwblhau’r gwaith glanhau a gosod y deunyddiau atal.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant, y Cynghorydd Glyn Banks:
“Mae’r timau wedi cyflawni canlyniadau gwych mewn ardaloedd prysur yn y Fflint, yr Wyddgrug, Bwcle, Brychdyn, Saltney, Talacre, Ewlo a Queensferry eleni, ac yn Nhreffynnon, Queensferry a Shotton y llynedd. Os byddwn yn llwyddiannus gyda cheisiadau yn y dyfodol, rydym yn gobeithio ymestyn y rhaglen i gynnwys strydoedd ochr oddi ar y prif ffyrdd wrth symud ymlaen”.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod costau blynyddol glanhau gwm cnoi i gynghorau yn y DU yn oddeutu £7 miliwn ac, yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, mae oddeutu 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi’u staenio â gwm cnoi.
Dywedodd, Prif Weithredwr Cadwch Brydain yn Daclus, Allison Ogden-Newton OBE: “Yn ffodus, mae’r mwyafrif o bobl sy’n cnoi gwm yn cael gwared arno’n gyfrifol. Ond i’r rhai nad ydynt, mae glanhau gwm a’r staen sy’n cael ei adael ar ôl ar ein palmentydd yn costio miliynau o bunnoedd i’r cynghorau bob blwyddyn.
“Gwyddom na fydd y mater yn cael ei ddatrys dros nos, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae’r gwm wedi cael ei lanhau, ond rydym yn hyderus y gallwn, gydag arloesi, ymchwil a newidiadau ymddygiad bach a ddarperir trwy’r Tasglu Gwm Cnoi, fynd i’r afael â’r mater hwn gyda’n gilydd.”
Drwy gyfuno glanhau strydoedd wedi’i dargedu gydag arwyddion sydd wedi’u dylunio’n arbennig i annog pobl i roi eu gwm cnoi yn y bin, y llynedd llwyddodd y cynghorau a gymerodd ran i leihau nifer y bobl sy’n gollwng gwm cnoi ar y stryd o hyd at 60% yn y ddeufis cyntaf.
Cyn delwedd: