Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Camerâu cyflymder cyfartalog i’w gosod ar yr A548

Published: 15/11/2024

Bydd gwaith i osod camerâu cyflymder cyfartalog ar yr A548 rhwng Llanerch-y-Môr a Mostyn yn cychwyn yr wythnos hon.

Mae’r mesur yn rhan o ymdrech ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Heddlu Gogledd Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd.

Nod y prosiect, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw mynd i’r afael â goryrru a chynyddu diogelwch ar hyd y ffordd hanfodol hon.

Mae’r A548 wedi ei nodi fel lleoliad o flaenoriaeth gan fod nifer sylweddol o wrthdrawiadau wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sawl digwyddiad sydd wedi arwain at farwolaeth neu anafiadau difrifol. Bydd system y camerâu cyflymder cyfartalog yn annog ymddygiad mwy diogel gan yrwyr ac yn gwella amodau’r traffig yn gyffredinol.

Mae disgwyl i’r gwaith gosod gymryd 4 wythnos a bydd yn cynnwys yr arwyddion rhybudd i roi gwybod i yrwyr am y mesurau gorfodi newydd.