Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 - Adnabod eich Hawliau

Published: 26/11/2024

Ledled y DU mae gofalwyr yn darparu cymorth allweddol ac amhrisiadwy i bartner, aelod o’r teulu neu ffrind.

Yr wythnos ddiwethaf, bu i ni nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a’r thema eleni oedd ‘Adnabod eich Hawliau’

Yma yn Sir y Fflint rydym yn falch o gefnogi dros 11,500 o drigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu, trwy wasanaethau mewnol a’n sefydliadau partner. Ond nid yw nifer o bobl yn gweld eu hunain fel gofalwyr ac yn aml nid ydynt yn ymwybodol o’u hawliau a’r hyn allant ei gael o ran cymorth a budd-daliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol “Mae gofalwyr a gofalwyr ifanc yn gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas, ac mae’n bwysig iddynt wybod bod cymorth ar gael i’w cefnogi yn eu rhinwedd eu hunain. Rwy’n hynod o falch o’r ystod eang o wasanaethau i ofalwyr yma yn Sir y Fflint, ac rwy’n annog gofalwyr sydd angen cymorth i gysylltu.”

Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu o ganlyniad i salwch, anabledd, bregusrwydd,  problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth na all ymdopi heb eu cefnogaeth.

Gall gofalwr fod o unrhyw oedran, gan gynnwys:

• Gofalwr ifanc o dan 18 oed

• Rhiant sy’n ofalwr yn gofalu am blentyn sydd ag anghenion cymorth ychwanegol

• Ffrind neu gymydog sy’n darparu cymorth i rywun sy’n fregus

• Gwr, gwraig neu bartner

• Rhywun sy’n gofalu am riant oedrannus sydd angen cymorth

Gall gofalu am rywun gymryd ychydig o oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos

Os ydych yn ofalwr newydd neu wedi bod yn gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog am beth amser, yn aml gallwch deimlo nad oes neb yn gwrando arnoch neu nad ydych yn cael eich cefnogi, ond fel gofalwr di-dâl mae gennych hawliau.

Bwriad Diwrnod Hawliau Gofalwyr yw sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol o’u hawliau, gadael i ofalwyr wybod ble i gael cymorth a chefnogaeth, a chodi ymwybyddiaeth.

Dywedodd Craig Macleod, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn cydnabod y cyfraniad ystyrlon mae gofalwyr yn ei wneud, gan gynnwys gofalwyr ifanc wrth ddarparu gofal a chymorth i’w hanwyliaid ac rydym yn deall eu bod angen cefnogaeth eu hunain er mwyn gwneud hyn.  Mae lles gofalwyr o bwysigrwydd mawr ac rydym eisiau sicrhau bod gofalwyr yn ymwybodol y gallant gael cyngor a chymorth unrhyw bryd ac nid dim ond pan fo argyfwng.

Ddydd Iau bu i’n sefydliad partner Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru gynnal diwrnod agored Hawliau Gofalwyr yn eu Canolfan newydd i Ofalwyr ar Stryd Fawr yr Wyddgrug. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr GOGDdC, Claire Sullivan:  “Gallwn gynnig ystod eang o gymorth i ofalwyr gan gynnwys cymorth ariannol, cynllun seibiant sydd wedi ennill gwobrau, asesiadau o anghenion gofalwyr, cwnsela, hyfforddiant, grwpiau cefnogi cyfoedion, cymorth ysbyty a mwy. Gall GOGDdC helpu gofalwyr i gael gafael ar wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth os oes arnynt angen cymorth yn eu rôl gofalu, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt am eu hawliau fel gofalwr di-dâl. Felly dewch draw i’n gweld ni.”

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.