Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint Ifanc
Published: 29/11/2024
Mae yna amseroedd cyffrous i ddod i grwp o bobl ifanc sy’n byw yn Sir y Fflint. Grwp cyfranogiad sydd newydd ei ffurfio ydi Sir y Fflint Ifanc sydd wedi dod â disgyblion o ddeg ysgol uwchradd yn Sir y Fflint, a chynrychiolwyr o Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint ynghyd, i ffurfio un grwp cyffredinol. Gyda chefnogaeth lawn Cyngor Sir y Fflint, mae’r bobl ifanc sydd yn angerddol am wneud newidiadau yn eu cymuned, yn cael y cyfle i ymgysylltu yn y prosesau democrataidd a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw ar lefel leol a chenedlaethol.
Yn dilyn cyfnod treialu llwyddiannus yn ystod haf 2024, fe fu’r grwp yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener 22 Tachwedd yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug gyda Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, a’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden. Roedd Neal Cockerton, Prif Weithredwr y Cyngor yn bresennol trwy gyfrwng cyswllt fideo i agor y cyfarfod yn ffurfiol a chroesawu’r bobl ifanc.
Yn ystod y bore, bu’r grwp yn cymryd rhan mewn gweithgaredd grwp Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a thrafod materion pwysig sy’n effeithio arnyn nhw. Cawsant gyfle i adolygu casgliadau o arolwg a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref gyda thua 600 o bobl ifanc o Sir y Fflint ac ystyried themâu i’w cynnwys yn eu Rhaglen Waith. Rhoddodd Ben Turpin, Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd, a Molly Salter gyflwyniad ar Newid Hinsawdd hefyd. Fe arweiniodd hyn at drafodaeth grwp a’r cyfle i’r bobl ifanc gyfrannu at Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor yn y dyfodol.
Fe ymgynghorwyd â’r bobl ifanc o ran sut yr hoffent gyfarfod yn y dyfodol a pha mor aml, a bydd swyddogion o wasanaethau Ieuenctid a thimau Ysgolion Iach y Cyngor yn hwyluso hyn wrth symud ymlaen.
Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
“Mae Sir y Fflint Ifanc yn gyfle gwych i’n pobl ifanc. Mae’n bwysig eu bod nhw’n gallu cyfrannu’n effeithiol i faterion maen nhw deimlo’n angerddol amdanynt yn eu cymuned a gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y dyfodol”.