Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint - un o ddim ond chwe Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr i ennill achrediad cynnar i’r Bwrdd Gorfodi Ymddygiad newydd
Published: 06/12/2024
Mae dros 300 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr, ac mae gwasanaeth gorfodi mewnol Sir y Fflint yn un o ddim ond chwe awdurdod lleol i ennill achrediad cynnar gan y Bwrdd Gorfodi Ymddygiad.
Mae’r Bwrdd Gorfodi Ymddygiad yn gorff arsylwi annibynnol ar gyfer y sector gorfodi dyledion yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Bwrdd wedi cynhyrchu cyfres o safonau newydd er mwyn sicrhau fod pawb sy’n destun camau gorfodi yn cael eu trin yn deg a chyson.
Mae’r arian a gaiff ei hadennill ar gyfer Cynghorau drwy weithgarwch gorfodi’n helpu i dalu am wasanaethau cyhoeddus hanfodol, ond mae’n gallu bod yn brofiad anodd ac ingol i nifer o bobl.
Mae achrediad Sir y Fflint yn darparu sicrwydd fod yr holl weithgareddau a gyflawnir gan ein hasiantwyr gorfodi a thimoedd canolfannau cyswllt yn cydymffurfio â’r arferion gorau diweddaraf yn y diwydiant.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Paul Johnson:
“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol fel un o ddim ond chwe awdurdod lleol ar draws Cymru a Lloegr i ennill achrediad cynnar gan y Bwrdd Gorfodi Ymddygiad yn fawr - mae’n gyflawniad arbennig ac yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gasglu ffrydiau incwm mewn modd cyfrifol a moesegol.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y safonau newydd a gwaith y Bwrdd Gorfodi Ymddygiad yma https://enforcementconductboard.org/standards/