Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cadarnhau gwaith trwsio Ysgol Uwchradd Penarlâg
Published: 11/12/2024
Mae gwaith i drwsio'r difrod a achoswyd gan Storm Darragh yn Ysgol Uwchradd Penarlâg wedi dechrau a bydd yn parhau dros wyliau'r Nadolig.
Yn ystod y gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn, disgynnodd coeden fawr gan dynnu sawl cebl uwchben i lawr a oedd yn sownd i dalcen yr ysgol a wnaeth yn ei dro ddod â rhan o'r wal i lawr.
Cyfarfu cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint â phrifathro Ysgol Uwchradd Penarlâg ddydd Sul i gynnal arolwg o'r difrod a threfnwyd mesurau adfer i wneud yr ardal yn ddiogel. Gwnaed penderfyniad i gau'r ysgol ddydd Llun fel rhagofal i sicrhau bod y waliau a ddifrodwyd yn cael eu harolygu a'u harchwilio gan beiriannydd adeiladu.
Ymwelodd ymgynghorydd arbenigol â'r safle ddydd Llun i asesu cyfanrwydd adeileddol y rhan o'r wal yr effeithiwyd arni, yn ogystal â'r tri thalcen arall, yr ystyriwyd bod pob un ohonynt yn ddiogel. Mae sgaffaldiau wedi'u codi ac mae'r adeilad bellach wedi'i atal rhag dwr a gwynt i atal difrod pellach.
Gall Cyngor Sir y Fflint gadarnhau y bydd gwaith trwsio parhaol yn digwydd ar ddiwedd y tymor ysgol yn ystod gwyliau'r Nadolig.
Dywedodd Simon Budgen, Pennaeth yr Ysgol: “Mae’r prif ffocws wedi bod ar sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel ac yn barod i groesawu disgyblion a staff yn ôl cyn gynted â phosibl, ac rwy’n falch bod hyn wedi’i gyflawni. Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Sir y Fflint a’r peirianwyr strwythurol am eu hymateb cyflym a phroffesiynol, yn ogystal ag i’n cymuned ysgol gyfan am eu hamynedd a’u cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at ailafael yn y drefn arferol tra bydd gwaith trwsio parhaol yn cael ei wneud dros wyliau’r Nadolig.”