Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safonau Masnach Sir y Fflint yn erlyn garddluniwr

Published: 17/01/2025

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint wedi llwyddo i erlyn garddluniwr a rannodd adolygiadau a lluniau ffals gan gwsmeriaid ar gyfryngau cymdeithasol i ddenu cwsmeriaid, yn ogystal â chyflwyno’i hun fel masnachwr cymwys a phroffesiynol pan mai’r gwrthwyneb oedd yn wir. 

Fe blediodd Brian Oxton o Drury Lane, Bwlce a fasnachodd dan yr enw Oasis Landscapes and Bespoke Chester, yn euog i un cyhuddiad o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg oedd yn ymwneud â 2 ddioddefwr.

Yn yr achos cyntaf, cafodd Mr Oxton ei gyflogi i wneud llawer o waith yn yr ardd gefn, yn cynnwys symud ty haf. Er ei fod wedi cael £9000 ac wedi cytuno ar amserlen ar gyfer y gwaith, dim ond yn achlysurol y trodd tîm Mr Oxton i fyny, ac roedd safon y gwaith a wnaed mor wael nad oedd llawer o werth iddo.

Fe gysylltodd dioddefwr nesaf Mr Oxton ag o i wneud gwaith oedd yn cynnwys creu ardal decin a chodi pergola. Cawsant wybod y byddai’r gwaith yn para am 6 diwrnod, serch hynny, fe gymerodd misoedd, a chafodd y gwaith erioed ei gwblhau. Roedd safon y gwaith yn isel iawn, ac roeddynt yn teimlo bod Mr Oxton wedi eu camarwain i gredu ei fod yn fasnachwr cymwys a phroffesiynol a oedd yn gallu cwblhau’r gwaith yn brydlon.

Yn ystod yr ymchwiliad hefyd, fe ddaeth hi’n amlwg bod gan Mr Oxton gardiau masnachwr oedd yn cynnwys adolygiadau cadarnhaol am ei waith yr oedd o wedi’u hysgrifennu ei hun, ynghyd ag adolygiadau eraill ar-lein oedd wedi’u postio gan bobl o du allan i’r DU.   Roedd yna hefyd luniau o waith yr oedd Mr Oxton yn hawlio yr oedd wedi'i wneud, ond fe lwyddwyd i brofi mai gwaith cwmnïau eraill oedd y lluniau.

Gan ddedfrydu Mr Oxton, dywedodd y Barnwr Parry: “Er gwaethaf eich datganiadau mae hi’n amlwg eich bod chi’n dwyllwr.”

Fe aeth yn ei flaen i ddweud bod y twyll yn helaeth a bod safon y gwaith yn isel iawn. Rhoddodd ddedfryd o 8 mis i Mr Oxton, wedi’i ohirio am 12 mis, cyrffyw y mae’n rhaid cadw ato rhwng 8pam a 6am, yn ogystal ag 80 awr o waith di-dâl. Fe gydnabuwyd fod Mr Oxton wedi talu £13,000 mewn iawndal a chostau erlyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Roedd pledio’n euog a’r gosb a roddwyd yn yr achos hwn yn addas ar gyfer achos lle nid yn unig defnyddiodd y masnachwr adolygiadau ffals, ond hefyd fe geisiodd hawlio bod y gwaith a gwblhawyd gan rywun arall yn waith ganddo fo ei hun, ac roedd safon y gwaith yn isel iawn gan gael effaith niweidiol ar gwsmeriaid. 

“Mae’r achos yma yn dangos sut mae Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned Sir y Fflint yn fodlon ac yn gallu cymryd y camau angenrheidiol i ddod a thwyllwyr o’r math yma ger bron y llysoedd a sicrhau eu bod yn cael eu cosbi, a gobeithio na fydd modd iddynt gymryd mantais ar aelodau diamddiffyn eraill o’r gymuned yn Sir y Fflint. Mae’r gwasanaeth yma’n parhau i ymchwilio i honiadau o fasnachwyr twyllodrus sy’n gweithio yn y Sir.”