Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wrth i un drws gau…!
Published: 14/02/2025
Am 5pm nos Wener, 28 Chwefror 2025, bydd Cyngor Sir y Fflint yn rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.
Ni fydd mwy o gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor. Bydd gweithwyr yn cael eu hadleoli i swyddfeydd eraill ac ni fydd derbynfeydd yn weithredol mwyach.
Meddai’r Cynghorydd David Hughes, Arweinydd y Cyngor: “Nid yw’n gyfrinach bod symud allan o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug wedi bod ar y gweill ers cryn amser. Mae’n adeilad hen iawn, sy’n hynod gostus i’w gynnal a’i gadw. Bydd symud gwasanaethau’r Cyngor allan o’r adeilad yn arbed tua £371,000 i’r Cyngor yn 2025/26, sy’n helpu i gau’r bwlch yng nghyllideb y Cyngor.
“Ond wrth i un drws gau, mae pennod newydd yn dechrau gyda’r adleoli i Dy Dewi Sant, Ewlo a byddwn yn ymuno â nifer o wasanaethau’r Cyngor, sydd wedi bod yn gweithio yn yr adeilad ers tro.
“Mae Ty Dewi Sant yn amgylchedd gweithio hyblyg a phroffesiynol, sy’n cyd-fynd yn dda gydag arferion gweithio modern yr 21ain ganrif, a bydd preswylwyr a chwsmeriaid yn parhau i dderbyn yr un gwasanaethau o ansawdd uchel.”
O ddydd Llun, 3 Mawrth 2025, bydd y gwasanaethau derbynfa a ddarparwyd yn flaenorol yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug ar gael yn y dderbynfa bresennol yn Ewlo a dyma fydd y prif gyfeiriad post ar gyfer Cyngor Sir y Fflint:
Ty Dewi Sant
Parc Dewi Sant
Ewlo
CH5 3FF
Er y bydd gwasanaeth ailgyfeirio o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug i Ty Dewi Sant yn weithredol am 12 mis (tan ddiwedd Ionawr 2026) gofynnwn i bobl ddiweddaru eu cofnodion a pharhau i ddefnyddio amlenni a rag argraffwyd tra bod ailgyfeirio’r gwasanaeth post yn weithredol
Mae gwybodaeth am symudiadau’r gwasanaethau ar gael ar ein gwefan a gofynnwn i bobl gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.
I osgoi amharu ar baratoi a darparu prydau ysgol, bydd Arlwyo a Glanhau NEWydd, sy’n darparu prydau i’r rhan fwyaf o ysgolion Sir y Fflint, yn parhau i ddefnyddio’r gegin yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug tra mae lle arall yn cael ei baratoi.
Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar wasanaethau ym Mhlas Llwynegrin, yr Wyddgrug.