Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Aelodau’n trafod cyllideb 2025/26
Published: 21/02/2025
Gofynnir i Gynghorwyr gymeradwyo’r gyllideb ar gyfer 2025/26 sy’n mynd i’r afael â phwysau ariannol sylweddol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Mae’r gyllideb arfaethedig yn ceisio cau bwlch ariannu o £18 miliwn, a bydd y Cabinet yn ei thrafod ar 24 Chwefror cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Cyngor llawn ei chymeradwyo’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Fel rhan o’r broses, gofynnir i Aelodau gymeradwyo cynnydd o 9.5% i Dreth y Cyngor hefyd. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o 8.93% ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.57% ar gyfer cyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dave Hughes: “Yn ddiamau, mae hwn yn benderfyniad anodd, ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fodloni galw cynyddol ein cymuned.
“O ganlyniad i bron i ddau ddegawd o danariannu gan lywodraethau cenedlaethol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod gostwng ei wariant £125 miliwn.
“Daw bron i 70 y cant o arian y Cyngor gan Lywodraeth Cymru, ac er gwaethaf lobïo parhaus wrth Weinidogion, Sir y Fflint yw un o’r Cynghorau sy’n derbyn y swm lleiaf o gyllid yng Nghymru unwaith eto. Pe baem wedi cael y cyfartaledd ar draws Cymru, byddem ar ein hennill o tua £173 y pen, sy’n dod i tua £26.9 miliwn yn gyffredinol.
“Fel gweddill Cymru, rydym yn dal i wynebu galw cynyddol am wasanaethau fel digartrefedd, gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaethau Stryd. Nid yw’r galw hwn yn lleihau a byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru er mwyn cael cyllid teg i bobl Sir y Fflint.”
Ddydd Iau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwaelodol o 3.8 y cant, wedi’i warantu ar gyfer pob Awdurdod Lleol, a bydd hyn yn cynyddu’r cyllid ar gyfer naw Cyngor, gan gynnwys Sir y Fflint. O ganlyniad, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cael £1.2 miliwn yn ychwanegol, ac argymhellwyd bod hwn yn cael ei gynnwys fel cyfraniad i’n cronfeydd wrth gefn at raid.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Richard Jones: “Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i greu rhywfaint o gadernid yn ein cronfeydd wrth gefn at raid. Byddai hyn yn gadael arian at raid o tua £3.9 miliwn. Er bod hyn yn swnio fel llawer o arian, mae’n sylweddol is na’r hyn a gawsom mewn blynyddoedd blaenorol.
“Wrth gwrs, byddem wedi bod wrth ein boddau yn defnyddio’r cyllid gwaelodol i leihau’r cynnydd arfaethedig o ran Treth y Cyngor, ond mae’r risg yn rhy uchel. Mae’r galw am ofal cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir yn tyfu ac mae allan o’n rheolaeth. Mae’n hanfodol bod gennym gronfeydd wrth gefn ar gyfer unrhyw faterion ariannol na ragwelwyd yn y meysydd hyn.”
Oherwydd graddfa her y gyllideb, gofynnwyd i bob adran nodi arbedion pellach, sydd wedi arwain at ostyngiad o ran cost o bron i £3.3 miliwn, ynghyd â gostyngiad o ran pwysau cost o £2.6 miliwn.
Mae gostyngiad 2.5 y cant ar gyllideb ddirprwyedig ysgolion yn cael ei gynnig hefyd, ond mae’r gyllideb yn dal i ddarparu cynnydd net o bron i £7 miliwn ar gyfer ysgolion.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Paul Johnson: “Mae’r heriau ariannol sy’n ein hwynebu yn ddigynsail ac rydym wedi gweithio’n hynod o galed i ystyried pob dewis. Rydym yn deall y bydd cynnydd o ran Treth y Cyngor yn cael effaith ar breswylwyr ac ni chafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar chwarae bach. Fodd bynnag, heb y cynnydd hwn, ynghyd ag arbedion cost sylweddol o bob rhan o’r Cyngor, ni fyddem yn gallu diogelu’r gwasanaethau hanfodol y mae ein cymunedau’n dibynnu arnynt.”