Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad Cyhoeddus Creu Lleoedd Bwcle

Published: 03/03/2025

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal sesiynau galw heibio yn Llyfrgell Bwcle, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu llunio dyfodol y dref.

 

Gan ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae’r Cynllun Creu Lleoedd drafft bellach wedi’i ddatblygu ar sail data, ymchwil a barn y cyhoedd. Mae bellach wedi cyrraedd y cam drafft terfynol i’w rannu gyda’r cyhoedd er mwyn ymgynghori arno ymhellach, cyn i’r Cyngor a’i bartneriaid allanol sy’n rhan o ddatblygiad y Cynllun Creu Lleoedd ystyried ei fabwysiadu.

 

Bydd yr ymgysylltiad diweddaraf hwn yn gadael i aelodau’r cyhoedd weld y cynllun drafft, y blaenoriaethau allweddol a nodwyd, a’r dull a gynigir i roi’r cynllun ar waith. Mae’r arolwg yn ceisio canfod barn y cyhoedd am y blaenoriaethau a’r camau gweithredu a gynigir.

 

Dechreuodd y gweithgaredd ymgynghori cychwynnol yn 2023, pan ofynnwyd i’r cyhoedd rannu eu canfyddiadau am Fwcle fel rhan o broses i ddatblygu ‘Cynlluniau Creu Lleoedd’ ar gyfer saith canol tref dros y 18 mis nesaf.  Ar ôl cael dros 2,300 o ymatebion i’r ymgynghoriad ar-lein ac wyneb yn wyneb, mae gwaith wedi parhau i ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Bwcle.

 

Bydd cyfle i bobl leol gymryd rhan mewn sesiwn galw heibio i roi adborth wyneb yn wyneb.  Cynhelir y sesiynau hyn yn Llyfrgell Bwcle:-

 

ddydd Llun 10 Mawrth 2025: 10.00-17.00

ddydd Mawrth 11 Mawrth 2025: 09:00-18:00

ddydd Mercher 12 Mawrth 2025: 09.00-17.00

ddydd Iau 13 Mawrth 2025: 09:00-18:00

ddydd Gwener 14 Mawrth 2025: 09.00-12.00

 

Bydd Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn bresennol ar y dydd Llun a’r dydd Gwener rhwng 10am a hanner dydd, os hoffech chi siarad yn uniongyrchol â’r tîm, ond bydd cyfle hefyd i lenwi arolygon adborth unrhyw dro o fewn oriau agor y Llyfrgell fel yr uchod.

 

Mae’r gweithgarwch Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o wasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner allanol. Gwneir hyn mewn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol yng Nghymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi. Mae angen y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau y gall buddsoddiad Llywodraeth Cymru fod ar gael i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi yn y dyfodol.

 

Bydd y Cynlluniau Creu Lleoedd yn nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, yn amlinellu blaenoriaethau a all helpu gwella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lleoliad, ac yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r trefi. Mae datblygu’r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gydweithio’n well er mwyn gwneud gwelliannau.