Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Teithio Llesol a Theithio Cynaliadwy
Published: 04/03/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau Teithio Llesol a Theithio Cynaliadwy sylweddol yn Acton a Phenarlâg.
Fe fydd y cynllun yn gwella cysylltedd ar hyd Lower Aston Hall Lane, gan greu llwybr cerdded/llwybr beicio a rennir oddi ar y ffordd. Fe fydd hwn yn cysylltu â’r llwybr a rennir a gwblhawyd yn ddiweddar ar Aston Hill/ A494, gan ddarparu llwybr mwy diogel a hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Yn ychwanegol, fe fydd Croesfan Sebra newydd yn cael ei chreu a bydd gwelliannau hanfodol i’r gerbytffordd yn cael eu gwneud a fydd yn cefnogi teithio diogel a chynaliadwy ymhellach.
Mae’r gwaith ar Lower Aston Hall Lane bellach wedi cychwyn, a bydd yn para am tua 10 wythnos. Bydd mesurau rheoli traffig ar waith drwy gydol cyfnod y gwaith, a bydd mynediad yn cael ei ganiatáu i breswylwyr, busnesau lleol a’r cyhoedd sy’n teithio. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwerthfawrogi cydweithrediad a chefnogaeth barhaus y gymuned leol yn ystod y gwaith hanfodol yma sydd yn darparu manteision hirdymor i bawb.