Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflawniadau Newid hinsawdd Cyngor Sir y Fflint hyd yma

Published: 07/03/2025

Yn 2019, daeth galwad gan Lywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Yn dilyn y datganiad hwn, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Strategaeth Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2019 a fyddai’n gosod amcanion allweddol a chamau i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030.  

 

Mae adolygiad diweddar o’r strategaeth yn cynnwys casgliad newydd a gwell o ddata, yn ogystal â dealltwriaeth gliriach o gynnydd, gyda chyfrifiadau a methodoleg, ynghyd â pholisi a chanllawiau mwy diweddar.

 

Mae Strategaeth Newid Hinsawdd 2025-30 yn manylu ar waith y Cyngor a wnaed hyd yma i lywio’r cyngor tuag at ei nod carbon sero erbyn 2030. 

 

Gallai hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

 

• Rhesymoli ystâd y Cyngor, gan gynnwys symud gweithwyr i adeilad modern, mwy effeithlon o ran ynni yn Ewlo;

• Adeiladu ac adnewyddu ysgolion addas ar gyfer y dyfodol drwy'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;

• Disodli goleuadau stryd y Cyngor gyda lampau LED sy'n defnyddio cryn dipyn yn llai o drydan;

• Cyflwyno cerbydau ailgylchu trydan i’r fflyd;

• Darparu cynlluniau llwybrau Teithio Llesol ledled y sir a llwybrau mwy diogel yn gymuned o amgylch ysgolion;

• Adolygiad o Strategaeth Caffael y Cyngor gyda thema ‘Carbon’ allweddol yn nodi ymrwymiadau’r Cyngor i’w gyflenwyr;

• Datblygiad Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol 15 mlynedd gyda tharged o gyflawni gorchudd canopi trefol o 18% erbyn 2033;

• Cydweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o’i wastraff ac ailgylchu, er mwyn ei atal rhag mynd i safle tirlenwi.

 

Mae’r camau hyn wedi helpu’r Cyngor i leihau ei allyriadau carbon ar draws pob thema allweddol o fewn ei Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

Meddai Chris Dolphin - Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Hinsawdd: 

“Yn dilyn adolygiad o’r strategaeth, a drwy gynnwys mesurau newydd, mae’n braf gweld y cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud mewn perthynas â newid hinsawdd.   Mae’n dangos bod gwaith ac ymroddiad swyddogion, preswylwyr Sir y Fflint a chraffu drwy brosesau democrataidd yn anfon y sir yn y cyfeiriad cywir i fod yn Gyngor carbon niwtral.”