Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr arogl yn Sandycroft
Published: 14/03/2025
Mae cynnydd yn cael ei wneud ar yr ymchwiliad parhaus i’r arogl sy’n effeithio ar breswylwyr yn ardal Sandycroft.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dwr Cymru ers mis Ebrill 2023 i nodi ffynhonnell yr arogl.
Mae adroddiad annibynnol wedi’i lunio gan ymgynghorwyr ansawdd aer, a gomisiynwyd gan y Cyngor i gefnogi’r ymchwiliad.
Mae’r adroddiad wedi’i rannu â sefydliadau allweddol sy’n fwyaf tebygol o fod yn cyfrannu at arogleuon yn yr ardal ac maen nhw wedi cael cyfle i ymateb i’r canfyddiadau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Rydym am roi sicrwydd i’r gymuned ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifri a’n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu. Mae hon yn broses hir a chymhleth, ac rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth ein preswylwyr sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad hyd yma. Rwy’n annog preswylwyr i barhau i roi gwybod am yr arogl pan fydd yno, a chynnwys manylion eu lleoliad.”
Bydd tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn parhau i gofnodi achosion o’r arogl a chasglu rhagor o ddata i gefnogi’r ymchwiliad.
Er mwyn rhoi gwybod am arogl, ffoniwch 01352 703440 neu anfonwch e-bost at PPadmin@flintshire.gov.uk