Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwirfoddolwyr Casglu Sbwriel
Published: 19/03/2025
Mae gwirfoddolwyr o grwp Casglu Sbwriel Glannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth Casglwyr Sbwriel a thrigolion y Fflint, wedi bod yn llwyddiannus wrth wella ymddangosiad yr ardal rhwng Queensferry a Phentre. Ar fore 15 o Chwefror, bu iddynt gasglu 61 bag o sbwriel, gan gyfrannu at yr ymdrech barhaus i gadw Sir y Fflint yn lân ac yn ddeniadol i’w drigolion ac ymwelwyr.
Dim ond blwyddyn yn ôl cafodd yr ardal hon ei chlirio yn flaenorol, gan gasglu 65 bag, mae hyn yn dangos bod y broblem o ran gollwng sbwriel yn parhau ac yn parhau i effeithio ar gymunedau lleol. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r grwpiau yn parhau i fod yn ymroddedig i ymdrin â’r broblem sbwriel.
Ar ôl y sesiwn bore bu i Morrison Energy Services ymuno â’r grwp yn y prynhawn a chasglu 30 bag arall, gan greu cyfanswm o 91 bag o sbwriel yn cael ei gymryd o’r ardal y diwrnod hwnnw.
Rydym yn apelio i’r bobl hynny sy’n parhau i ollwng sbwriel, gan erfyn arnynt i stopio ac ystyried effaith eu gweithredoedd ar yr amgylchedd a chymunedau lleol. Mae clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gostus, yn enwedig os oes angen rheoli traffig i sicrhau diogelwch y gweithwyr. Byddai’n llawer gwell gwario’r arian hwn yn rhywle arall y gymuned. A gorau po gyntaf y gwnawn ni weithredu i leihau sbwriel er budd pawb.
Mae’r grwpiau casglu sbwriel yn gynhwysol ac yn groesawus, a bob amser yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth neu gefnogaeth, waeth pa mor fychan yw’r cyfraniad mae pobl yn dymuno ei wneud. Maent yn annog eraill i ymuno â’r ymdrech a gwneud eu cymunedau yn le mwy glân a gwyrdd. Gallwch ddilyn eu cynnydd a’u hymdrechion ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwybod mwy am sut i gymryd rhan.
• Casglwyr Sbwriel y Fflint
•Casglwyr Sbwriel Glannau Dyfrdwy
• Casglwyr Sbwriel Sir y Fflint
Wrth edrych ymlaen, rydym yn falch o gyhoeddi bod Gwanwyn Glân Cymru rownd y gornel, o 21 Mawrth i 6 Ebrill 2025. Byddwn yn hyrwyddo’r holl weithgareddau casglu sbwriel ledled Sir y Fflint sy’n digwydd yn ystod y cyfnod hwn, gan wahodd unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan ac ymuno â’r ymdrech.
Os ydych yn unigolyn, yn fusnes, ysgol neu’n sefydliad sy’n fodlon cymryd rhan neu drefnu grwp casglu sbwriel eich hun, cysylltwch â cadwchsiryfflintyndaclus@siryfflint.gov.uk, a byddwn wrth ein boddau i gynorthwyo a sicrhau bod eich gweithgaredd yn llwyddiannus.
Gyda’n gilydd, gallwn wneud newid cadarnhaol parhaus ar gyfer ein hamgylchedd
Ymunwch â ni i gadw Sir y Fflint yn daclus!
