Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun grant yn helpu i wella safleoedd busnes yn Sir y Fflint

Published: 25/03/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio gyda busnesau canol trefi yn Sir y Fflint i reoli a chyflwyno cynllun Grant Gwella Eiddo Canol Trefi.

Buddsoddwyd cyfanswm o dros £650,000 mewn eiddo masnachol ers Hydref 2023, a chafwyd £400,000 o hyn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  Mae’r fenter yn un o 10 prosiect a gyflwynwyd fel rhan o ‘Raglen Buddsoddi yng Nghanol Trefi’, buddsoddiad o £1.5 miliwn i gyflawni buddion mewn 7 tref yn Sir y Fflint.

Dyluniwyd y cynllun grant i gefnogi busnesau i wella eu heiddo, creu cyfleoedd newydd megis mwy o swyddi, gwella estheteg a defnydd eiddo yng nghanol trefi yn ogystal â gwella hirhoedledd yr adeiladau. Cafwyd grantiau o hyd at £50,000, yn talu cymaint â 70% o’r costau sy’n gysylltiedig â gwaith gwella eiddo a wnaed.Full Circle Front of Shop (after).jpg

O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn, mae’r economi wedi elwa o 45 o fentrau bach-canolig yn cael contractau/is-gontractau gwerth oddeutu £415,000.00, ac mae 7 eiddo gwag bellach yn cael eu defnyddio. Hefyd, yn ôl y cwmni ymchwil a gwerthuso annibynnol Wavehill, sydd wedi cynnal arolwg gyda pherchnogion busnes a gymerodd ran yn y cynllun, mae’r buddsoddiad wedi arwain at greu 7 swydd lawn amser a 6 swydd ran amser newydd.  Mae busnesau eu hunain wedi buddsoddi cyfanswm o dros £250,000 fel rhan o’r cynllun.

Mae cyfanswm o 14 busnes wedi elwa o’r Cynllun Grant Gwella Eiddo sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y busnesau a’r trefi. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hi Q Garage, Queensferry, “mae nifer y bobl sy’n defnyddio fy musnes wedi cynyddu 30% ers cwblhau’r buddsoddiad yn yr eiddo” a bu i’r perchennog busnes Daniel Farrell o Full Circle Security yng Nghei Connah ddisgrifio sut mae “buddsoddi cyfalaf o’r cynllun grant wedi cyfrannu’n sylweddol at y momentwm a llwyddiant datblygu ei fusnes.  Mae’r eiddo newydd yn llawer mwy addas i’r diben a bydd y gwelliannau yn rhoi amgylchedd gwaith gwell i ni a mwy o le i dyfu ein busnes”.Full Circle Security - Owner and Plaque.jpg

Mae’r 14 eiddo busnes sydd wedi eu gwella i gyd wedi elwa o waith mewnol ac allanol i wneud eu heiddo yn addas ac i’w helpu i ffynnu a chynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi ac annog mwy o fuddsoddiad. 

Dywedodd y Cynghorydd Lleol Chris Dolphin: “Mae’n wych gweld yr effaith mae’r Cynllun Grant Gwella Eiddo wedi ei gael ar eiddo masnachol yn ein canol trefi ledled Sir y Fflint, yn arbennig y rhai nad oeddent yn cael eu defnyddio ac nad oeddent yn addas cyn y buddsoddiad. Mae angen llongyfarch busnesau am eu gwaith wrth drawsnewid eu heiddo gyda’r buddsoddiad a wnaed. Oherwydd llwyddiant y cynllun, mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cael mwy o gyllid i barhau gyda’r prosiect o Ebrill 2025 ymlaen”.

Os oes gennych eiddo masnachol yn nhrefi Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry neu Shotton ac eisiau gwybod sut allwch elwa o grantiau adfywio canol trefi sydd ar gael, cysylltwch ag adfywio@siryfflint.co.uk.