Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol Trefi Sir y Fflint
Published: 26/03/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod y Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau wedi bod yn llwyddiant enfawr.
Dros y 18 mis diwethaf, mae 23 o sefydliadau ar draws Sir y Fflint wedi elwa o gael £109,697.52 o gyllid grant ar gyfer eu gweithgareddau a digwyddiadau yng nghanol 7 o drefi (Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton). Gyda hyd at 80% o gyllid grant ar gael, fe gyfrannodd bob un o’r sefydliadau llwyddiannus o leiaf 20% tuag at gostau cyffredinol eu gweithgareddau a digwyddiadau a ddaeth i £116,475.40 yn fwy na’r cyllid grant sy’n cael ei wario yn yr economi leol yn sgil y cynllun.
Roedd y Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref yn rhan o Raglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint oedd yn cynnwys cyfanswm o 10 prosiect a greodd dros £2 filiwn o fuddsoddiad mewn saith o drefi ar draws Sir y Fflint ers mis Medi 2023. Roedd y rhaglen yn bosibl yn sgil cyllid a gafwyd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Nod Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol Tref oedd cefnogi ffyniant canol trefi trwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â mwy o bobl i ganol y dref. Mae busnesau canol y dref wedi wynebu cyfnodau economaidd heriol dros y blynyddoedd diwethaf, felly drwy roi hwb i weithgarwch yng nghanol trefi ar draws Sir y Fflint, mae hyn wedi bod o fudd i fusnesau ac wedi helpu i gynyddu bywiogrwydd cyffredinol y trefi ar draws y Sir.
O ganlyniad uniongyrchol yr arian grant hwn, cynhaliwyd 115 o weithgareddau neu ddigwyddiadau yng nghanol y trefi gyda 9756 o bobl yn bresennol. Mae 396 o bobl wedi gwirfoddoli yn y digwyddiadau neu’r gweithgareddau hyn ac mae o leiaf 245 o sefydliadau wedi elwa’n uniongyrchol o’r gweithgaredd/digwyddiad arfaethedig.
Yn rhan o’r gweithgareddau neu ddigwyddiadau mae 178 o bobl wedi elwa o uwchsgilio a hyfforddiant a chofnodwyd bod 423 o bobl wedi bod yn rhan o wneud penderfyniadau am eu canol tref.
Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cael arian i barhau gyda’r prosiect hwn o Ebrill 2025, a gwahoddir sefydliadau i wneud cais am arian o fis Ebrill 2025. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rannu o 1 Ebrill 2025 yn https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/Activities-and-Events-Grant.aspx.
Fe fydd y Tîm Adfywio yn cynnal prynhawn gwybodaeth ddydd Mercher 2 Ebrill 2025 rhwng 12pm a 4pm i rannu gwybodaeth am gynllun 2025-26, ac i gynorthwyo â chyngor am geisiadau a chynigion. Bydd yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Bwcle neu fel arall, e-bostiwch regeneration@flintshire.gov.uk