Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mwynhau Cefn Gwlad
Published: 16/04/2025
Wrth i ni ffarwelio â’r gaeaf a chroesawu heulwen y gwanwyn, mae Cyngor Sir y Fflint a Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint am arddangos yr hyn sydd gan y sir i’w gynnig yn ei chefn gwlad a hefyd gofyn i ymwelwyr fwynhau’n gyfrifol.
‘Rwy’n gwahodd pawb yn gynnes i fwynhau harddwch ein cefn gwlad - cerddwch yn ofalus, peidiwch â gadael eich ôl, a pharchwch y tir sy’n ein cynnal i gyd’ - Julian Pellatt o Fforwm Mynediad Sir y Fflint.
Mae’n hanfodol ein bod yn cofio nad cyrchfannau golygfaol yn unig yw ardaloedd gwledig - maent hefyd yn dirweddau gwaith, yn gartrefi bywyd gwyllt ac yn annwyl i’r cymunedau lleol. P’un a ydych yn cerdded, yn beicio neu’n mwynhau penwythnos i ffwrdd, mae gan bawb ran i’w chwarae er mwyn amddiffyn y lleoedd arbennig hyn.
Dyma rai canllawiau syml ond hanfodol ar sut i ymddwyn yng nghefn gwlad:
Peidiwch â gadael eich ôl
Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Gall hyd yn oed gwastraff bioddiraddadwy fel croen banana fod yn niweidiol i ecosystemau lleol. Peidiwch â chynnau unrhyw danau na defnyddio barbeciws. Parchwch y dirwedd trwy ei gadael yn union fel yr oedd hi.
Cadwch at Lwybrau a Hawliau Tramwy
Defnyddiwch lwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau eraill sydd wedi’u marcio. Gall crwydro oddi ar y llwybrau darfu ar fywyd gwyllt, difrodi cnydau ac amharu ar waith amaethyddol.
Cadwch gwn dan reolaeth
Dylech gadw cwn ar dennyn pan ydych wrth ymyl da byw a bywyd gwyllt. Dylech bob amser lanhau ar ôl eich ci - gall baw cwn niweidio anifeiliaid a difetha’r amgylchedd i eraill.
Caewch giatiau ar eich ôl
Mae ffermwyr yn aml yn dibynnu ar giatiau i reoli da byw. Gofalwch eich bod yn cau giatiau ar eich ôl, oni bai fod arwyddion yn dweud fel arall.
Ystyriwch bobl eraill
Parchwch yr heddwch yng nghefn gwlad a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno. Dylech ildio i gerbydau fferm, cyfarch cerddwyr eraill yn gwrtais, a pheidio â rhwystro rhodfeydd neu ffyrdd cul wrth barcio.
Gwarchodwch fywyd gwyllt a phlanhigion
Peidiwch â chasglu blodau, amharu ar anifeiliaid na thynnu deunyddiau naturiol. Gall rhywbeth sy’n ymddangos yn fach gael effaith fawr.
Cynlluniwch ymlaen a byddwch yn barod
Gwiriwch ragolygon y tywydd, gwisgwch esgidiau addas a dewch â mapiau neu ddyfeisiau GPS. Rhowch wybod i rywun pa lwybr y byddwch yn ei ddefnyddio os ydych yn mentro’n bell.
Cefnogwch Gymunedau Lleol
Prynwch oddi wrth siopau lleol a stondinau fferm, parchwch eiddo preifat, a byddwch yn ystyriol o swn, yn enwedig yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y nos.
Mae’r canllawiau hyn yn cyd-fynd â’r Cod Cefn Gwlad, sef cyfres hirsefydlog o egwyddorion sydd wedi’u llunio i helpu pobl i fwynhau cefn gwald gan ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae llyfryn Teithiau Cerdded Gwledig hefyd wedi’i gynhyrchu gan y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol, sy’n gwarchod y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a rheoli safleoedd sy’n eiddo i’r cyngor ym mhob rhan o’n tirwedd amrywiol sy’n ymestyn o’r mynyddoedd i’r arfordir. Rydym wedi rhoi’r llyfryn hwn at ei gilydd i arddangos ystod amrywiol o rai o deithiau cerdded mwyaf hardd Sir y Fflint i chi eu mwynhau.
Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys rhai o’r teithiau cerdded gorau yn y sir ac mae’n cynnwys mapiau, cyfarwyddiadau a ffotograffau lliwgar, gydag ychydig bach o hanes diddorol hefyd. Yn ogystal â Bryniau Clwyd, gallwch archwilio glannau afonydd tawel, dyffrynnoedd coediog a thir fferm bryniog Llanasa, Ysceifiog, Sychdyn, Chwitffordd a Chaergwrle. Fel arall, beth am ddarganfod arfordir llawn bywyd gwyllt Talacre sy’n parhau ar hyd Aber y Dyfrdwy. Neu gallech fynd ati i ddadorchuddio cyfoeth o straeon am dreftadaeth ddiwydiannol Mynydd Helygain, Dyffryn Maes Glas a Llwybr Treftadaeth Bwcle.
‘Rydym yn croesawu’r llyfryn newydd hwn sy’n amlygu’r cefn gwlad trawiadol sydd gan Sir y Fflint i’w gynnig. Mae’n dathlu ein tirweddau, ein treftadaeth a’r ffyrdd amrywiol y gallwn eu mwynhau yn gyfrifol a gyda balchder’ - Y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint.
Nodiadau:
- Lluniau cynwysedig: Julian Pellatt (Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint), Stuart Jones (Swyddog Mynediad) a Huw Morgan (Is-gadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Sir y Fflint).
- Am ragor o wybodaeth: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Countryside-and-Coast/Parks-and-countryside.aspx